Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 6 Mehefin 2018.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Credaf y dylid canmol is-ganghellor Prifysgol Caerdydd am y cynllun a'i ganmol hefyd am fod yn feiciwr brwd. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar y gwaith o ddatblygu a chyflwyno prosiectau sy'n rhan o'r mapiau rhwydwaith integredig fel galluogydd i bobl symud nid yn unig rhwng eu cartref a'u gwaith, ond hefyd o ran eu bywyd cymdeithasol—gallu cael mynediad at sinemâu, bwytai, siopau ac unrhyw fath arall o wasanaeth yr hoffant. Credaf, felly, ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar gynllunio seilwaith cymdeithasol drwy lens cliriach y teithio llesol y gellir ei ddarparu er mwyn mynd â phobl o'u cartrefi at seilwaith cymdeithasol.