1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2018.
3. Pa ganlyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cyflawni o'r buddsoddiad o £60 miliwn mewn teithio llesol a gyhoeddwyd ym mis Mai? OAQ52275
Bydd yr arian yn darparu newid sylweddol o ran y gwaith o ddatblygu seilwaith teithio llesol ledled Cymru, a byddaf yn cyhoeddi sut rwy'n bwriadu dyrannu'r arian ychwanegol hwn cyn bo hir.
A fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod taer angen newid sylweddol arnom? Rwy'n edrych ar y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac nid yw'n braf i'w ddarllen, oherwydd yn 2013-14, roedd 53 y cant o'n plant yn cerdded i'r ysgol gynradd a 2 y cant yn beicio, a phedair blynedd yn ddiweddarach mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng i 42 y cant yn cerdded ac 1 y cant yn beicio. Mae gennym ostyngiad tebyg yn nifer y bobl dros 16 oed sy'n gwneud un daith teithio llesol o leiaf unwaith yr wythnos. Felly, mae gennym agenda heriol iawn yma. Felly, buaswn yn awyddus iawn i wybod pa ganlyniadau rydych yn disgwyl eu cyflawni o'r buddsoddiad sylweddol hwn.
Roedd yn amlwg yn siom clywed y Prif Weinidog yn dweud nad oedd yn teimlo'n ddiogel yn beicio o gwmpas Caerdydd—rhywbeth rwy'n ei wneud y rhan fwyaf o ddyddiau—felly beth yw'r canlyniadau rydych yn disgwyl eu cyflawni? Ar y naill law, a fyddech yn disgwyl iddi fod yn ddigon diogel i'r Prif Weinidog deimlo y gall feicio o gwmpas Caerdydd, ac a fyddech yn disgwyl bod gan bob ysgol mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd gynlluniau teithio llesol, fel bod dewis gan bob person ifanc i fynd i'r ysgol naill ai drwy feicio neu drwy gerdded yn ddiogel?
Iawn. A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn ac am ei diddordeb a'i hangerdd parhaol mewn perthynas â'r pwnc hwn? Yn fras, y canlyniad yr hoffem ei weld yw newid diwylliannol ac ymddygiadol o ran trafnidiaeth, ac er mwyn cyflawni hynny, mae arnom angen y seilwaith cywir a'r cymorth cywir ar ffurf hyfforddiant, er mwyn cael gwared ar y pryder sydd gan lawer o bobl o hyd ynglŷn â diogelwch, yn enwedig rhieni.
Bydd y £60 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf yn amlwg yn cynorthwyo i ddatblygu llwybrau mwy diogel, yn enwedig llwybrau mwy diogel i gerdded a beicio i ysgolion. Mae'r gostyngiad ymddangosiadol yng nghanran y plant mewn ysgolion cynradd sy'n cerdded i'r ysgol fel arfer yn peri cryn bryder, felly rwyf wedi ymestyn y rhaglen teithiau iach, sydd wedi sicrhau bod swyddogion yn gweithio mewn ysgolion i annog y defnydd o feiciau yn ogystal ag annog cerdded i ysgolion, gan gynnig yr hyfforddiant cywir hefyd. Ond nid yn unig y byddwn yn ei hymestyn am flwyddyn arall; byddwn hefyd yn ymestyn y rhaglen i gynnwys rhieni. Credaf ei bod yn hollol iawn ein bod nid yn unig yn annog pobl ifanc i ymgymryd â theithio llesol, ond ein bod yn sicrhau hefyd fod eu rhieni yn ymgymryd â theithio llesol ac yn ddigon hyderus i ganiatáu i'w plant ymgymryd â theithio llesol.
Dylwn ddweud bod y £60 miliwn o gyllid yn ychwanegol at y cyllid blynyddol a ddyrennir drwy'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sydd o ddiddordeb arbennig i'r Aelod mewn perthynas â llwybrau diogel i ysgolion. Hefyd, mae'n ychwanegol at y cyllid a ddyrennir i gynlluniau teithio llesol a'r gwaith rhagarweiniol drwy'r gronfa trafnidiaeth leol, ac wrth gwrs, y symiau sylweddol rydym yn eu gwario ein hunain, ar ein prosiectau ein hunain ar gefnffyrdd. Felly, at ei gilydd, rydym yn disgwyl gweld oddeutu £92 miliwn yn cael ei wario ar y seilwaith teithio llesol eleni a dros y ddwy flynedd ganlynol.
Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn parhau i gefnogi hyfforddiant a chyrsiau sy'n annog pobl i ymgymryd â theithio llesol. Mae hwn yn fater y byddaf yn ei godi yn y bwrdd teithio llesol nesaf, a fydd yn cael ei gynnal yr wythnos hon, rwy'n credu. Mae'n rhywbeth y mae aelodau'r bwrdd wedi bod yn arbennig o awyddus i'w drafod, yn enwedig y rhaniad rhwng refeniw a chyfalaf, sy'n pennu i ba raddau y gallwn ddarparu cyrsiau hyfforddi ar gyfer pobl ifanc ac oedolion.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai yr hoffech ymuno â mi i longyfarch is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, a lansiodd eu strategaeth gynaliadwyedd heddiw a'r modd y maent am gynorthwyo staff y brifysgol a'r myfyrwyr i feicio rhwng cyfleusterau—ac fe feiciodd ef at y morglawdd, lle y lansiwyd polisi hwn ganddynt—a dyna sydd ei angen. Hefyd, mae angen i bobl allu beicio o gwmpas a rhwng eu cymunedau, nid rhwng cymuned a chanol dinas fawr yn unig, fel y gallwn gael mynediad da drwy lwybrau beicio at asedau cymunedol allweddol fel ysgolion, siopau ac amwynderau, ac yna byddwn yn normaleiddio hyn—mewn dinas fel Caerdydd, na allai fod wedi'i chynllunio'n well, mewn gwirionedd, ar gyfer beicio—fel ffordd ddewisol o deithio.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Credaf y dylid canmol is-ganghellor Prifysgol Caerdydd am y cynllun a'i ganmol hefyd am fod yn feiciwr brwd. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar y gwaith o ddatblygu a chyflwyno prosiectau sy'n rhan o'r mapiau rhwydwaith integredig fel galluogydd i bobl symud nid yn unig rhwng eu cartref a'u gwaith, ond hefyd o ran eu bywyd cymdeithasol—gallu cael mynediad at sinemâu, bwytai, siopau ac unrhyw fath arall o wasanaeth yr hoffant. Credaf, felly, ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar gynllunio seilwaith cymdeithasol drwy lens cliriach y teithio llesol y gellir ei ddarparu er mwyn mynd â phobl o'u cartrefi at seilwaith cymdeithasol.
Credaf fod sylwadau'r Prif Weinidog, waeth beth yw ei amgylchiadau personol, yn anffodus, gan fod hynny'n ychwanegu at y myth fod cerdded a beicio yn beryglus a bod y car yn ddiogel er mai'r car, mewn gwirionedd, yw'r peth peryglus yn ein cymunedau ac yn ein dinasoedd.
Rydych wedi cael eich holi'n dwll ynglŷn â beicio, felly gadewch imi eich holi ynglŷn â cherdded. Yn y £60 miliwn newydd hwn, beth fydd yn cael ei ddyrannu'n benodol er mwyn annog pobl i gerdded, sef y dewis hawsaf yn lle'r car, ac yn sicr, y ffordd orau o wneud ychydig o ymarfer corff hefyd? Ac wrth wneud hynny, a fyddwch yn nodi targedau ar gyfer yr hyn rydych yn disgwyl i'r arian a'r gwariant hwn ei gyflawni, oherwydd er mwyn atal y dirywiad, er enghraifft—fel y dywedodd Jenny Rathbone—o ran cerdded i'r ysgol, mae arnom angen targedau gweithredol yn ogystal â rhywfaint o arian y tu ôl i hynny.
Mae'r Aelod y llygad ei le o ran niferoedd. Gallai nifer y bobl sy'n cerdded ar hyn o bryd, er ei fod yn sylweddol, fod yn fwy o lawer, yn enwedig mewn perthynas â theithiau byr iawn. Ac mae'r Aelod yn llygad ei le hefyd mai pryder ynglŷn â diogelwch sy'n atal pobl ar hyn o bryd rhag cerdded teithiau bach yn hytrach na mynd mewn ceir.
Bydd y £60 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiectau sy'n cyflawni amcanion cerdded ac amcanion beicio, ond o ran yr anogaeth y nododd yr Aelod sy'n ofynnol i bobl gerdded mwy, bydd y cynllun teithiau llesol mewn ysgolion yn annog pobl ifanc i gerdded yn ogystal â beicio. Yn yr un modd, bydd y cynllun teithiau llesol a fydd yn cael ei gyflwyno i gynnwys rhieni yn annog rhieni i gerdded a beicio hefyd.
Wrth symud ymlaen, mae angen imi drafod gyda'r bwrdd teithio llesol pa drefniadau newydd y gellir eu rhoi ar waith er mwyn annog a chefnogi pobl nid yn unig i feicio, ond i gerdded yn amlach hefyd.