Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:48, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, lansiwyd ein rhaglen 'Dinasoedd Byw' gennym ni fel Ceidwadwyr Cymreig, lle roeddem yn amlinellu nifer o ymrwymiadau polisi mewn perthynas â cherbydau trydan. Yn benodol, amlinellwyd cynigion i greu cronfa ffordd i ffyniant a fyddai'n galluogi i 10,000 o bwyntiau gwefru ceir trydan gael eu gosod ledled Cymru erbyn 2030 ac yn sicrhau bod canolfan ragoriaeth newydd yn cael ei chreu i gefnogi'r gwaith o greu technoleg cerbydau trydan newydd. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gynnig eich cefnogaeth i'r cynigion hyn ac ymrwymo i gyflwyno polisïau i gefnogi'r uchelgais hwn?