Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:52, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae tanwydd nwy yn llawer glanach nag unrhyw danwydd ffosil arall, ac yn wir, o ystyried tystiolaeth ddiweddar, mae'n llawer glanach, o bosibl, na'r sglodion coed rydym yn eu defnyddio i wresogi'r adeilad hwn. Mae'r peryglon sy'n ymwneud ag echdynnu wedi'u gorliwio i raddau helaeth, fel y mae ystadegau o'r Unol Daleithiau wedi'i brofi dros nifer o flynyddoedd. Does bosib, Ysgrifennydd y Cabinet, nad oes gan bobl Cymru hawl i weld yr adnodd enfawr hwn yn cael ei archwilio'n briodol o leiaf, yn enwedig o gofio bod gan y diwydiant echdynnu botensial i greu cannoedd o swyddi â chyflogau da.