Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 6 Mehefin 2018.
Buaswn yn dadlau mai ynni adnewyddadwy, mewn gwirionedd, sydd â photensial i greu mwy o swyddi a swyddi sy'n gynaliadwy. A hefyd o ran ynni adnewyddadwy, gallwch warantu y bydd ar gael yfory, ond pan fyddwch wedi echdynnu'r holl nwy siâl, bydd wedi mynd. Yn fy marn i, ateb cyflym yw safbwynt yr Unol Daleithiau, ymagwedd yma heddiw ac wedi mynd tuag at ynni, echdynnu cymaint o ynni ag y gallwch neu gymaint o nwy ag y gallwch er mwyn darparu twf economaidd yn y tymor byr. Mae hynny'n mynd yn gwbl groes i'r contract economaidd sy'n edrych ar arferion busnes cyfrifol, a'r cynllun gweithredu economaidd sy'n edrych ar dwf cynaliadwy hirdymor. Felly, buaswn yn dal i ddadlau y dylem ganolbwyntio ar ddatblygu ynni adnewyddadwy, yn hytrach na mynd ar drywydd yr ateb cyflym tymor byr hwnnw i broblemau economaidd, sef yr hyn a geir yn yr Unol Daleithiau wrth iddynt fynd ar drywydd nwy siâl.