Teithio Llesol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:03, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod y llygad ei le o ran niferoedd. Gallai nifer y bobl sy'n cerdded ar hyn o bryd, er ei fod yn sylweddol, fod yn fwy o lawer, yn enwedig mewn perthynas â theithiau byr iawn. Ac mae'r Aelod yn llygad ei le hefyd mai pryder ynglŷn â diogelwch sy'n atal pobl ar hyn o bryd rhag cerdded teithiau bach yn hytrach na mynd mewn ceir.

Bydd y £60 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiectau sy'n cyflawni amcanion cerdded ac amcanion beicio, ond o ran yr anogaeth y nododd yr Aelod sy'n ofynnol i bobl gerdded mwy, bydd y cynllun teithiau llesol mewn ysgolion yn annog pobl ifanc i gerdded yn ogystal â beicio. Yn yr un modd, bydd y cynllun teithiau llesol a fydd yn cael ei gyflwyno i gynnwys rhieni yn annog rhieni i gerdded a beicio hefyd.

Wrth symud ymlaen, mae angen imi drafod gyda'r bwrdd teithio llesol pa drefniadau newydd y gellir eu rhoi ar waith er mwyn annog a chefnogi pobl nid yn unig i feicio, ond i gerdded yn amlach hefyd.