Teithio Llesol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:02, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod sylwadau'r Prif Weinidog, waeth beth yw ei amgylchiadau personol, yn anffodus, gan fod hynny'n ychwanegu at y myth fod cerdded a beicio yn beryglus a bod y car yn ddiogel er mai'r car, mewn gwirionedd, yw'r peth peryglus yn ein cymunedau ac yn ein dinasoedd.

Rydych wedi cael eich holi'n dwll ynglŷn â beicio, felly gadewch imi eich holi ynglŷn â cherdded. Yn y £60 miliwn newydd hwn, beth fydd yn cael ei ddyrannu'n benodol er mwyn annog pobl i gerdded, sef y dewis hawsaf yn lle'r car, ac yn sicr, y ffordd orau o wneud ychydig o ymarfer corff hefyd? Ac wrth wneud hynny, a fyddwch yn nodi targedau ar gyfer yr hyn rydych yn disgwyl i'r arian a'r gwariant hwn ei gyflawni, oherwydd er mwyn atal y dirywiad, er enghraifft—fel y dywedodd Jenny Rathbone—o ran cerdded i'r ysgol, mae arnom angen targedau gweithredol yn ogystal â rhywfaint o arian y tu ôl i hynny.