Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 6 Mehefin 2018.
Mae trigolion wedi bod yn ymgyrchu dros ostwng y terfyn cyflymder ar Ffordd Parc-y-fron yn Nhreffynnon i 30 mya ers peth amser bellach. Maent wedi bod yn ymgyrchu dros hynny er diogelwch y trigolion a cherddwyr a defnyddwyr y ffordd. Mae'r ffordd yn ffordd breswyl, gyda lleoedd parcio ar hyd-ddi gerllaw ysgolion, ac ar nifer o ffyrdd ymyl. Mae'n sefyllfa hurt, a dweud y gwir: mae'r terfyn cyflymder wrth fynd i mewn i'r rhan honno o Dreffynnon yn 30 mya wrth arwain i mewn i'r dref, yna mae'n codi i 40 drwy ran uchaf y dref ac yna mae'n newid i 60. Nawr, gwn fod—. Adolygwyd y terfyn cyflymder yn ddiweddar, ac mae'r terfyn wedi'i gadw ar 40, nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i'r trigolion, ac nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i minnau chwaith. Gwnaed y penderfyniad anghywir, a'r trigolion sy'n gorfod byw gydag ef. Gwn na fyddwch yn awyddus i roi sylwadau ar achos penodol, felly rwy'n defnyddio Treffynnon fel enghraifft, ond fel mater o egwyddor, a ydych yn cytuno y dylai preswylwyr gael y gair olaf ar derfynau cyflymder ar eu ffyrdd?