Diogelwch ar y Ffyrdd yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:09, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

O dan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n gwbl hanfodol fod ymgynghori'n digwydd â thrigolion ar faterion sy'n gysylltiedig â'u diogelwch a'u lles, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys terfynau cyflymder yn eu cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r syniad o weithredu parthau 20 mya, a lle bo hynny'n briodol, o ostwng terfynau cyflymder o 30 mya i 20 mya, er enghraifft y tu allan i ysgolion. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r ardal y cyfeiria'r Aelod ati. Rwy'n ymwybodol o'r amrywio yn y terfynau cyflymder heb fod ymhell oddi wrth ei gilydd. Byddaf yn mynd ar drywydd y mater gyda'r awdurdod lleol, gan nad ein cyfrifoldeb ni, ond cyfrifoldeb yr awdurdod lleol, oedd bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Fe roddaf wybod i'r Aelod beth yw esboniad yr awdurdod lleol am y penderfyniad hwnnw ac i weld a fydd dadansoddiad pellach o'r terfynau cyflymder yn yr ardal yn ystod y misoedd nesaf.