Camddefnyddio Alcohol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn. Pan ddechreuais i gyntaf, flynyddoedd lawer yn ôl, fel cyfreithiwr, roedd hi'n aml yn wir pan oedd gennym ni ddau ŵr ifanc—gwŷr ifanc oedden nhw yn anochel—a oedd efallai wedi bod yn ymladd â'i gilydd mewn diod ar Ffordd y Brenin yn Abertawe, a oedd yn dipyn o leoliad ar gyfer pethau o'r fath yn y dyddiau hynny, os teimlwyd na fyddent yn achosi trafferth i'r heddlu na'r llysoedd eto, roedden nhw'n cael eu rhwymo i gadw'r heddwch, a oedd yn golygu nad oedd ganddynt euogfarn droseddol. Roedden nhw'n ofnus, a dweud y gwir; roedd yn codi ofn arnyn nhw rhag dychwelyd i'r llys ac roedd, i bob pwrpas, yn ffordd o sicrhau eu hymddygiad da. Mae hyn yn mynd gam ymhellach, oherwydd mae'n helpu pobl i ddeall effeithiau alcohol a chamddefnyddio alcohol. Mae'n debyg mai hwn yw'r estyniad i gyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder mewn rhai ffyrdd, y mae pobl—nid fi, dylwn ychwanegu, ond rhai pobl—wedi canfod eu hunain yn rhan ohonynt. Mae'n ffordd dda o addysgu pobl. Os gallwn ni addysgu pobl allan o ymddygiad, yna mae hynny'n well na'u cosbi nhw heb fynd i'r afael â gwraidd yr ymddygiad hwnnw.