Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Mehefin 2018.
Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd y bydd gwaharddiad ar alcohol yn cael ei dreialu mewn rhan o Stadiwm Principality Cymru yn ystod gemau rygbi rhyngwladol yr hydref. Mae hyn yn dilyn cwynion am ymddygiad pobl feddw yn difetha gemau i gefnogwyr eraill, a daethpwyd i'r casgliad bod 87 y cant yn dioddef llu o ymosodiadau llafar. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu'r cam hwn i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol mewn gemau rygbi rhyngwladol? A wnaiff ef ymrwymo i drafod hyn gyda chyrff chwaraeon eraill gyda'r nod o ymestyn y gwaharddiad i gampau a lleoliadau eraill lle mae camddefnyddio alcohol yn broblem yng Nghymru?