Llygredd Aer yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mater i gyngor Caerdydd fydd y mater o dâl atal tagfeydd. O ran y metro, egwyddor sylfaenol y metro yr oeddwn i eisiau ei sicrhau oedd y byddai modd ei ymestyn. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod yn rhaid i'r metro edrych fel mae dulliau eraill o drafnidiaeth, fel rheilffordd ysgafn, gan fod rheilffordd ysgafn yn haws o lawer i'w hymestyn na rheilffordd drom. Yr enghraifft gyntaf o hynny fyddai'r rheilffordd i lawr i'r bae yma yn 2023, ond ceir camau eraill. Mae dwyrain Caerdydd yn cael ei wasanaethu'n wael gan y rhwydwaith rheilffyrdd—bydd parcffordd Caerdydd yn gwella'r sefyllfa, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun. Ceir cynlluniau yng nghamau'r metro yn y dyfodol i ystyried rheilffordd ysgafn/tram, ar gyfer ardal ddwyreiniol Caerdydd. Rwyf i wedi gweld y mapiau i wneud yn siŵr bod y bwlch sy'n bodoli yno yn cael ei lenwi yn y dyfodol. Felly, ni fwriedir i fap y metro fel y mae ar hyn o bryd ddangos ei lawn gyrhaeddiad, ond bydd cyfle i ymestyn y metro trwy reilffyrdd ysgafn i rannau o Gaerdydd sydd wedi cael eu gwasanaethu’n wael yn y gorffennol.