Llygredd Aer yng Nghaerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:03, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae llawer o ddinasoedd ledled y byd yn ymdrechu i fod yn garbon niwtral, rhai erbyn mor gynnar â 2025, ac mae'n amlwg y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar ansawdd yr aer. Mae maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, wedi symud eu targed nhw ar gyfer niwtraledd carbon ddegawd yn ei flaen. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod yr angen am fwy o uchelgais yma ac wedi galw am i Gaerdydd fod y brifddinas carbon niwtral gyntaf yn y DU. Tybed a ydych chi'n rhannu'r math hwn o uchelgais.