Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch am yr ateb yna, ond, gan gynllunio ar gyfer y dyfodol, ceir enghreifftiau o wladwriaethau nad ydyn nhw yn aelodau o'r UE sy'n rhan o'r rhwydwaith TEN-T—er enghraifft, mae'r Swistir yn aelod. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Cabinet wedi ei drafod o ran cynllunio ôl-Brexit, oherwydd bydd i ba raddau yr ydym ni'n cydgysylltu â'r UE ar welliannau i'n prif seilwaith trafnidiaeth—ein ffyrdd, ein rheilffyrdd, ein meysydd awyr a'n porthladdoedd—yn cael effaith enfawr ar weithgarwch economaidd am ddegawdau i ddod? Dylai Cymru geisio cynnal y pontydd hynny, hyd yn oed os yw Lloegr yn benderfynol o'u llosgi.