1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2018.
8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd wrth ddatblygu ei chynlluniau trafnidiaeth? OAQ52329
Mae ein buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd i fodloni safonau Ewropeaidd a'n lobïo parhaus i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd TEN-T yn dangos y pwysigrwydd yr ydym ni'n ei osod ar gysylltedd trafnidiaeth da gyda gweddill y DU ac Ewrop.
Diolch am yr ateb yna, ond, gan gynllunio ar gyfer y dyfodol, ceir enghreifftiau o wladwriaethau nad ydyn nhw yn aelodau o'r UE sy'n rhan o'r rhwydwaith TEN-T—er enghraifft, mae'r Swistir yn aelod. A yw hynny'n rhywbeth y mae'r Cabinet wedi ei drafod o ran cynllunio ôl-Brexit, oherwydd bydd i ba raddau yr ydym ni'n cydgysylltu â'r UE ar welliannau i'n prif seilwaith trafnidiaeth—ein ffyrdd, ein rheilffyrdd, ein meysydd awyr a'n porthladdoedd—yn cael effaith enfawr ar weithgarwch economaidd am ddegawdau i ddod? Dylai Cymru geisio cynnal y pontydd hynny, hyd yn oed os yw Lloegr yn benderfynol o'u llosgi.
Daearyddiaeth yw'r anhawster, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn aros yn ei le, ar draws de Prydain gyfan yn arbennig. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o'r UE i fod yn rhan ohono. Mae'r Swistir yn rhan o TEN-T ac nid yw hi'n aelod o'r UE, ac, wrth gwrs, mae'r rhwydwaith yn cysylltu dau aelod o'r UE: Iwerddon, ar y naill law, a'r gwledydd ar y cyfandir ar y llall. Felly, nid oes unrhyw reswm o gwbl, yn rhesymegol, pam na ddylem ni fod yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw. Dim ond cefnogwyr Brexit a chwifwyr baner mwyaf brwd UKIP allai o bosibl gredu bod bod yn rhan o raglen integredig i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn rhyw fath o gynllwyn Ewropeaidd. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni aros yn rhan o'r rhwydwaith hwn.
A gaf i ofyn, Prif Weinidog, sut ydych chi'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y llwybrau hyn? Yn amlwg, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, mae hwn yn fater sy'n ymestyn ar draws y ffin, ac mae'n amlwg yn bwysig bod y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd.
Ydy, ac rydym ni'n gwneud hynny pryd y gallwn. Yn ei etholaeth ef, wrth gwrs, bydd yn gwybod—mae e'n gweld ffordd osgoi'r Drenewydd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, a gwn ei fod wedi ei chroesawu. Bydd wedi cael ffordd osgoi Four Crosses hefyd, ac yna, wrth gwrs, ar ôl mynd trwy Lanymynech, mae'r ffordd yn dechrau arafu, gan fynd trwy Pant i mewn i Swydd Amwythig a thu hwnt. Gall fod yn anodd ymgysylltu â'r adran drafnidiaeth, fel eu bod nhw'n deall sut y mae ffyrdd sy'n ymddangos yn ymylol iddyn nhw yn bwysig i ni, ac i'r cymunedau sy'n byw ar hyd y ffyrdd hynny yn Lloegr hefyd. Felly, byddwn bob amser yn parhau i weithio gyda'r Llywodraeth yn Lloegr er mwyn gwneud yn siŵr bod ein rhwydwaith ffyrdd—a'n rhwydwaith rheilffyrdd yn wir—mor rhyng-gysylltiedig â phosibl.