Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 12 Mehefin 2018.
Daearyddiaeth yw'r anhawster, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn aros yn ei le, ar draws de Prydain gyfan yn arbennig. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o'r UE i fod yn rhan ohono. Mae'r Swistir yn rhan o TEN-T ac nid yw hi'n aelod o'r UE, ac, wrth gwrs, mae'r rhwydwaith yn cysylltu dau aelod o'r UE: Iwerddon, ar y naill law, a'r gwledydd ar y cyfandir ar y llall. Felly, nid oes unrhyw reswm o gwbl, yn rhesymegol, pam na ddylem ni fod yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw. Dim ond cefnogwyr Brexit a chwifwyr baner mwyaf brwd UKIP allai o bosibl gredu bod bod yn rhan o raglen integredig i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn rhyw fath o gynllwyn Ewropeaidd. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni aros yn rhan o'r rhwydwaith hwn.