Clymog Japan

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Nid fy mod i'n ymwybodol ohono, ond rwy'n siŵr bod enghreifftiau ohono. Nid wyf i wedi—. Mae hwnna'n ddull rheoli biolegol nad wyf i wedi ei glywed yn cael ei gynnig o'r blaen. Nid oeddwn i'n ymwybodol bod modd bwyta clymog Japan a dweud y gwir. Mae'n debyg y dylwn i ychwanegu'r cafeat, os oes unrhyw un yn gwylio hyn: peidiwch â rhoi cynnig ar hyn gartref tan iddo gael ei brofi'n llwyr. Mae arweinydd y tŷ yn dweud wrthyf ei fod yn gwbl ofnadwy; ni wnaf i ofyn iddi ai profiad personol yw hynny ai peidio, ond nid yw'n argymhelliad ganddi hi. Bwytadwy ond ofnadwy—[Chwerthin.]—dyna yw safbwynt y Llywodraeth ar fwyta clymog Japan.

Ceir pwynt pwysig yma: mae clymog yn rhywogaeth arbennig o oresgynnol—hawdd ei symud o gwmpas—ac, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n chwilio am ffyrdd newydd o'i reoli, ond hefyd, wrth gwrs, yr ymdrinnir ag unrhyw fath o anghyfreithlondeb o ran ei ddympio cyn gynted â phosibl.