Clymog Japan

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:09, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n ffaith adnabyddus mai clymog Japan yw un o'r planhigion mwyaf niweidiol i gael ei gyflwyno i ynysoedd Prydain erioed. Rwy'n deall bod gan gynghorwyr lleol ddyletswydd i reoli plâu clymog. Gan fod y plâu hyn yn gallu achosi trafferthion mewn tai preifat, mae'n hanfodol bod y rheolaethau hyn ar waith, ac eto mae hyd yn oed arsylwi arwynebol o ardaloedd sy'n bennaf drefol yn dangos ei bod yn ymddangos nad yw mesurau rheoli yn cael eu cymhwyso. A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried ailgyhoeddi canllawiau, ac efallai nodyn i atgoffa cynghorau lleol am eu dyletswydd yn hyn o beth?