Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 12 Mehefin 2018.
Mae’r cyhoedd yng Nghymru’n gwybod bod Llafur wedi colli eu ffordd o ran cynnal y GIG yng Nghymru, ac mae Plaid Cymru eisiau codi'r GIG yn ôl ar ei draed. Dyna pam y buom ni'n pwyso am yr arolwg seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, sydd wedi rhoi cyfres ddefnyddiol iawn inni, rwy'n credu, o egwyddorion arweiniol. Roedd y ffaith bod yr arolwg hwnnw wedi mynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu’n gyflym i lunio cynllun gweithredu yn brawf, rwy’n credu, o'r hyn yr oedden ni’n ei wybod eisoes—bod strategaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer dyfodol iechyd a gofal wedi bod yn ddiffygiol. Felly, mae gennym ni yn awr gyfres o gynigion, ac mae elfennau cadarnhaol, yn sicr. Mae’r gronfa £100 miliwn, er enghraifft, i'w chroesawu. Wrth gwrs mae i'w chroesawu, ond nid yw'n ddigon, rwy'n ofni. Ond, yn bwysicach, nid dyma'r dystiolaeth rwy'n credu fy mod i a chleifion Cymru wedi bod yn chwilio amdani o gyfres o gynigion a fydd yn arwain at ddiwylliant newydd ac a fydd mewn gwirionedd yn sefydlu sut ydym ni mewn difrif yn sicrhau’r newid hwnnw a bod yn fodd inni gychwyn i gyfeiriad newydd.
Pan gyhoeddwyd adroddiad yr arolwg seneddol, fe wnaethom ni lunio cyfres o gwestiynau i’w gofyn i’r Llywodraeth, pethau yr oeddem ni yn eu disgwyl gan y Llywodraeth yng ngoleuni'r hyn a gafodd ei gynnig a’i amlinellu ar ffurf cyfres o egwyddorion yn yr arolwg hwnnw. Felly, rwy’n mynd i'w rhestru. Rwy’n mynd i sôn am bedwar ohonynt yma. Mae angen cynlluniau manwl i recriwtio mwy o staff, yn enwedig ym maes gofal sylfaenol. Rydyn ni’n sôn am roi mwy o bwyslais a mwy o bwysigrwydd ar ofal sylfaenol. Mae hynny’n golygu bod gennym ni faterion staffio difrifol iawn y mae angen inni ymdrin â nhw. Ble mae'r cynllun hwnnw ar gyfer staffio? Mae angen cynigion sylweddol arnom ni ar gyfer polisïau i atal iechyd gwael. Dydw i ddim yn gweld hynny. Ble mae’r cynigion hynny? Yn drydydd, ble mae’r cynlluniau roeddem ni’n eu disgwyl, yng ngoleuni adroddiad yr arolwg seneddol, y byddent yn darparu data gwell a chymaradwy ar berfformiad er mwyn caniatáu meincnodi gyda pherfformiad yn y gwledydd eraill, fel yr argymhellwyd gan yr adolygiad? Ac yn olaf, am y tro, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cael sylw rhannol yn y gyfres o gynigion rydych chi wedi'u cyhoeddi yn y gronfa trawsnewid £100 miliwn i fwrw ymlaen â’r agenda integreiddio, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd yn hoffi gweld integreiddio yn digwydd, ond roedd arnom ni eisiau cynigion ynglŷn â sut y bydd gwasanaethau a ddarperir gan wahanol gyrff sector cyhoeddus gyda gwahanol gyllidebau’n integreiddio i ddarparu’r gofal iechyd a’r gofal cymdeithasol gorau posibl. Gallai’r arolwg seneddol roi egwyddorion cyffredinol inni. A dweud y gwir, rwy’n credu mai dyna oedd diben yr arolwg seneddol, sef tynnu sylw at rai egwyddorion arweiniol. Roedd angen cynigion cadarn a chynhwysfawr iawn, iawn ar y Llywodraeth, ac mae arnaf ofn nad dyna sydd gennym ni yma.