Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Mae’n braf gallu dechrau ar Gyfnod 3 y Mesur hwn. Mi wnaf i ychydig o sylwadau cyffredinol ac, wrth gwrs, mi ydw i wedyn yn cynnig gwelliant rhif 4 yn ffurfiol.
Mi ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi credu ers tro yn yr egwyddor o ddefnyddio prisio fel arf i geisio perswadio pobl i yfed yn fwy cymedrol ac i roi rhagor o ystyriaeth i beryglon goryfed. Mi fyddwn i yn dweud ar y cychwyn yn fan hyn mai drwy’r system drethiant yr ydym ni yn credu y dylai hynny ddigwydd fel mater o egwyddor, ond gan nad ydy’r pwerau hynny gennym ni fel sefydliad ar hyn o bryd,—rwy’n mawr obeithio ac yn hyderu y bydd y sefyllfa honno’n newid yn y dyfodol—ond gan nad ydy’r pwerau hynny gennym ni ar hyn o bryd, mi ydym ni fel plaid wedi cefnogi’r egwyddor o gyflwyno isafbris yr uned ers rhai blynyddoedd.
Ond wedi dweud hynny, mi ydw i wedi dod at y cwestiwn hwn, a’r broses ddeddfwriaethol yn benodol, efo llygaid mor agored ag y gallwn i eu cael, yn gwybod bod yna lawer o bobl â gwir bryderon ac ofnau ynglŷn â pham yr ydym ni eisiau gwneud hyn, ac a fyddai’r hyn yr ydym ni’n edrych i’w wneud drwy’r ddeddfwriaeth hon yn cael gwir effaith. Mi ydym ni wedi gweithio felly yn gadarnhaol i chwilio am ffyrdd o gryfhau’r ddeddfwriaeth fel y cafodd ei chyflwyno yn wreiddiol, ac mi ydw i yn hyderus bod ein gwelliannau ni heddiw, yn ogystal â’r gwelliannau eraill y byddwn ni yn eu cefnogi, yn cryfhau’r ddeddfwriaeth yma, a'u bod yn gamau pwysig tuag at egluro pwrpas y ddeddfwriaeth yma wrth gyhoedd sydd yn amheus, llawer ohonyn nhw, ynglŷn â diben hyn, a hefyd mae yna elfennau yma sydd yn gwneud y ddeddfwriaeth, rydym ni’n gobeithio, yn fwy ffit ar gyfer y dyfodol.
Gan droi at welliant 4 yn benodol, mae’r gwelliant yma yn ymwneud â gofyn am ymgynghori â thafarndai, neu â chyrff sy’n cynrychioli tafarndai yn benodol, ynglŷn â’r ddeddfwriaeth yma, ac ar y pwynt lle y down ni at adfer y ddeddfwriaeth yma, neu ail-greu rheoliadau i ailgyflwyno ar gyfnod y machlud ymhen blynyddoedd. Y rheswm yr ydym ni’n cyflwyno hwn ydy ein bod ni'n credu bod yna wahaniaeth y mae'n bwysig ei nodi rhwng yfed alcohol mewn cyd-destun tafarn neu le tebyg a lle mae'r yfed hwnnw yn digwydd mewn llefydd eraill. Mae gan dafarndai amodau trwyddedu. Mi fydd gan dafarndai da staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf, er enghraifft, a staff sydd yn gwybod i roi'r gorau i roi alcohol i gwsmer os ydyn nhw wedi yfed gormod. Mae awdurdod lleol yn gallu tynnu trwydded oddi ar dafarn os ydyn nhw'n credu bod yna oryfed anghyfrifol yn digwydd yn hwnnw, ond mae'r tafarndai yma, sydd i fi yn rhan bwysig o'n cymunedau ni, yn gel, yn gliw yn aml iawn sy'n cadw cymunedau efo'i gilydd, wedi wynebu cystadleuaeth annheg, rydw i'n meddwl, gan archfarchnadoedd a llefydd eraill. Ac rydw i'n meddwl y byddai cytuno i'r gwelliant yma yn fodd i ailhafalu pethau rhywfaint drwy ddweud, 'Ydy, mae tafarn yn wahanol ac mi ddylem ni wrando ar farn y tafarndai wrth ystyried effaith y ddeddfwriaeth.'
Felly, rydym ni'n meddwl bod yr ailhafalu yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn y modd hwn. Mi fyddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliannau gan y Ceidwadwyr oherwydd mi rydym ni'n teimlo y byddai ymgynghori pellach, yn cynnwys efo'r pwyllgor, yn helpu i wneud y ddeddfwriaeth yma'n fwy cadarn. Mae'n bwysig, fel y dywedais, i ddod â'r cyhoedd efo ni efo deddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn gyffredinol, ac mae hynny'n sicr yn wir yn yr achos hwn. Felly, cefnogwch ein gwelliant, ac mi gefnogwn ninnau hefyd y Ceidwadwyr.