Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 13 Mehefin 2018.
Wel, yn amlwg, rwy'n rhannu rhwystredigaeth pawb ynglŷn â chyflymder y newyddion mewn perthynas â'r morlyn llanw. Ond rwy'n credu bod angen i ni gadw golwg ar y sefyllfa o hyd mewn perthynas â ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill yn ogystal. Mae prifysgol gwyddoniaeth gymhwysol Stuttgart wedi cynghori yn ddiweddar mai cyfuniad o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl pob tebyg, yw'r ffordd orau o leihau allyriadau mewn ardaloedd trefol, ac maent wedi darganfod, os ydych yn ystyried ynni biomas neu geothermol, mae'n bosibl i'r ardaloedd trefol hynny gyfrannu bron i hanner eu hynni eu hunain o ffynonellau adnewyddadwy. Fel y gwyddoch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig buddsoddi yn y modelau ynni adnewyddadwy cymysg hyn, fel y gall ein dinasoedd mawr wrthbwyso eu defnydd o drydan erbyn 2030. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio mwy o ynni biomas a geothermol fel rhan o'r model cynhyrchu ynni cymysg yma yng Nghymru yn awr, pan fo gennym gyfle i wneud hynny?