Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 13 Mehefin 2018.
Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn cadw golwg ar gyfuniad o wahanol fathau o ynni adnewyddadwy, ac fe grybwyllais fferm wynt gymunedol Awel Aman Tawe yn fy ateb cyntaf i Dai Lloyd. Mae honno'n eiddo i'r gymuned yn gyfan gwbl. Roedd yn costio £8 miliwn, a chredaf ein bod wedi cyfrannu hanner y swm hwnnw—credaf mai tua £4 miliwn ydoedd. Maent yn awr, unwaith eto, ar y blaen o ran talu eu had-daliadau yn ôl i ni. Fe fyddwch yn gwybod am brosiect Adfywio Gŵyr hefyd. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar bob math o ynni adnewyddadwy, ac os ydym am gyrraedd y targedau uchelgeisiol iawn a osodais y llynedd, mae angen i ni weld y cyfuniad hwnnw.