Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch. Wel, rhan o'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'r sector dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw eu paratoi ar gyfer dyfodol ar ôl Brexit, ac mae garddwriaeth yn un maes lle rwy'n credu y gallwn wneud camau breision. Felly, pan fyddwn yn cynnal ymgynghoriad ar ddechrau mis Gorffennaf, mae hwn yn faes a fydd yn ffurfio rhan o'r ymgynghoriad. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â ffrwythau a llysiau yn segur mewn porthladdoedd a meysydd awyr, ac rydym yn bryderus iawn ynglŷn â hynny, ynghyd â bwyd môr. Mae oes silff ein cig yn bwysig iawn, felly mae angen i ni wneud gwaith ar oes silff hefyd, i wneud yn siŵr fod y sector yn gallu cystadlu â gwledydd eraill sydd ag oes silff hwy ar gyfer eu cynnyrch bwyd.
Fe sonioch fod hwn yn fater iechyd cyhoeddus. Yn amlwg rydym yn derbyn bod bwyd eisoes yn cael ei gydnabod fel mater iechyd cyhoeddus. Nid ydym eisiau gweld deiets afiach. Felly, mae'n faes lle rwy'n credu y gallwn wneud camau breision. Fel y dywedwch, gall ein ffermwyr dyfu ffrwythau a llysiau, ac yn sicr nid wyf wedi clywed pobl yn dweud wrthyf nad yw Cymru'n gallu gwneud hynny.