Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:17, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Y tro diwethaf i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyfarfod, gwnaethom gyfarfod yn y Drenewydd, a buom yn siarad â nifer o fusnesau cynhyrchu bwyd—Hilltop Honey, Monty's Brewery—ac yn ein trafodaethau cyn hynny, cyn i ni gyfarfod â'r Prif Weinidog, awgrymodd y busnesau hynny y byddai dynodi bwyd a diod fel thema twristiaeth ar gyfer blwyddyn yn y dyfodol, i hyrwyddo Cymru drwy gynnyrch Cymreig, yn syniad da. Rydym wedi crybwyll hyn wrth y Prif Weinidog, a ddywedodd y byddai'n cael ei ystyried. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar hynny.