Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:18, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Prif Weinidog ynglŷn â hynny, ond yn sicr rwyf wedi cael trafodaethau gyda Ken Skates ynglŷn â thwristiaeth bwyd. Credaf fod hwn yn faes lle y gallwn wneud camau enfawr. Soniais mewn cwestiwn cynharach fy mod wedi ymweld â Gwlad y Basg y llynedd. Ym maes awyr Bilbao, mae ganddynt y siop fwyaf anhygoel yn gwerthu cynnyrch lleol. Credaf ei fod yn rhywbeth y gallem ei wneud yma ym maes awyr Caerdydd. Byddai'n wych gweld siop yno gyda chynnyrch Cymreig, ac yn sicr, mae'n rhywbeth y byddaf yn gweithio gyda chyd-Aelodau i'w gyflwyno.