'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:21, 13 Mehefin 2018

Diolch am yr ateb byr. Roeddwn i’n gobeithio y byddech chi’n sôn am gydweithio yn yr ateb, a dweud y gwir, achos dyna beth sydd ar goll, mae’n ymddangos i mi, ar hyn o bryd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad. Nid wyf yn siŵr pam mae’r Llywodraeth mor frwd dros adnewyddu a diwygio ac ad-drefnu llywodraeth leol pan fo gyda nhw gynigion gan lywodraeth leol ei hunan i gydweithio yn well, i gydweithio’n fwy strategol, ac yn wyneb yr holl newidiadau sy’n mynd i ddigwydd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Ym mha ffordd y mae’r Gweinidog yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad ar sail yr ymateb hyd yma gan lywodraeth leol, sy’n ymddangos eu bod nhw yn gwthio yn erbyn ei syniadau, ac nid yw ef yntau yn cynnig cydweithio gyda nhw?