'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl'

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:22, 13 Mehefin 2018

Rydym ni'n trafod sut rydym ni’n gweithio gyda llywodraeth leol, ac rydym ni wedi bod yn gwneud hynny ers amser.

A gaf i ddweud hyn? Beth rwyf eisiau ei wneud drwy’r broses yma yw sicrhau ein bod ni yn cynnig nid jest diwygio llywodraeth leol, gan nad oes pwrpas gwneud hynny os nad oes pwrpas i’r peth. Felly, beth rwyf eisiau ei wneud yw cryfhau llywodraeth leol, cryfhau cynghorau, cryfhau’r ffordd rydym yn ethol cynghorwyr, cryfhau’r ffordd rydym yn cael atebolrwydd gwleidyddol yn lleol, cryfhau arweinyddiaeth leol, a chryfhau’r gwasanaethau rydym ni’n eu cael yn lleol. Felly, proses bositif yw hon, a phroses o ddatganoli grym o’r lle yma i ganolfannau gwleidyddol ar draws ein gwlad. Ac rwy’n credu y buaswn i’n gobeithio, o leiaf, y buasai hynny’n rhywbeth lle y buasai fe a’i blaid yn cytuno â ni.