Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 13 Mehefin 2018.
Croesawaf yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn ceisio edrych ar rai o'r meysydd hynny sydd ar hyn o bryd yn arwain at bobl yn cysgu ar y strydoedd a gweld lle y ceir bylchau yn y polisi. Credaf ei fod eisoes wedi cael croeso cyffredinol ar draws y sector, felly llongyfarchiadau ar hynny. Credaf fod yr argymhellion yn adeiladol ac wedi eu hystyried yn drwyadl, ac fel y nodwyd, mae'r fframwaith deddfwriaethol yn un eithaf cadarn bellach, a'i nod yw atal yn anad dim. Ac mae'n deg dweud ei fod wedi denu rhywfaint o sylw ledled y DU, felly dechreuwn gyda'r sylfaen honno.
Ond mae'r her wedi bod yn llawer mwy, rwy'n credu, wrth ymdrin â phobl sy'n cysgu ar y stryd, yn enwedig rhai sydd eisoes ar y strydoedd neu ar fin mynd ar y stryd. Ar y lefel honno—a chredaf ei bod yn deg dweud, pan fydd llawer o'r cyhoedd yn meddwl am ddigartrefedd, am gysgu ar y stryd y byddant yn aml yn meddwl, yn hytrach na'r cwestiwn ehangach ynglŷn â digartrefedd ar ei amrywiol ffurfiau. Felly, roedd y cwestiwn ynglŷn â sut yr ymdriniwn â'r pen hwnnw i bethau, y pen difrifol iawn, yn amlwg yn thema gyffredin a ddeilliodd o'r sesiynau tystiolaeth, wrth i'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr, gan gynnwys y Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth, canolfan Huggard, Cymorth Cymru a Shelter Cymru, nodi mai effaith gyfyngedig a oedd i Ddeddf 2014 yn arbennig ar y rhai a oedd eisoes yn ddigartref, yn enwedig pobl sy'n cysgu ar y stryd. Nodaf fod Dr Peter Mackie o Brifysgol Caerdydd wedi datgan, ac rwy'n dyfynnu, fod y Ddeddf
'wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref a gwella eu sefyllfa yn gyffredinol.... Serch hynny, nid yw wedi bod mor llwyddiannus â hynny gyda'r rheini sy'n cysgu ar y stryd, sef y grŵp y gellir dadlau sydd fwyaf agored i niwed.'
Ac unwaith eto, rwyf am fod yn fanwl gywir ac yn gymedrol yn fy meirniadaeth yn hynny o beth, oherwydd mae hon yn her anodd tu hwnt o ran polisi a bu cyflawniadau gyda'r Ddeddf na ddylem eu gwadu.
A gaf fi nodi un neu ddau o'r materion mwy dadleuol yn gyflym, gan ddechrau gydag angen blaenoriaethol? Ymysg rhai o'r argymhellion y buaswn yn anghytuno â hwy braidd yw'r syniad hwn y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol. Nid wyf yn gweld hyn fel opsiwn ymarferol ar hyn o bryd. Cyhyd ag y ceir digartrefedd a chysgu ar y stryd, bydd angen cydbwyso blaenoriaethau. Yn ddelfrydol, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, byddai pawb ohonom am weld sefyllfa lle nad oedd angen blaenoriaethol yn bodoli oherwydd ein bod wedi datrys problem cyflenwad tai. Ond nid ydym yn y sefyllfa honno, a rhaid imi ddweud bod y sylwadau a wnaed gan lywodraeth leol yn gwneud hyn yn glir iawn ac wedi tynnu sylw at y goblygiadau ariannol a allai fod yn gysylltiedig â diddymu angen blaenoriaethol. Mae'n gysylltiedig iawn â phroblem cyflenwad ac mae hynny'n mynd i gymryd cryn amser i'w ddatrys. Aeth Cyngor Caerdydd mor bell â datgan, pe bai angen blaenoriaethol yn cael ei ddiddymu, y gallai hynny gynyddu nifer yr ymgeiswyr digartref, rwy'n dyfynnu yn hytrach na phobl sy'n ceisio datrys eu problemau eu hunain.
Nawr, rwy'n meddwl bod honno'n farn go gadarn ac efallai'n farn lem hyd yn oed, ond ceir cydbwysedd yma. Mae angen inni fod yn eithaf gofalus ynglŷn â hyn.
Os edrychwn ar pam y mae pobl yn mynd yn ddigartref, a phobl yn cysgu ar y stryd ar y pen mwyaf difrifol, ar gyfer dynion sengl, mae'n ymwneud â bod yn agored i henaint, iechyd gwael, wedi'u dilyn gan adael carchar a risg o drais neu gam-drin, ac i fenywod, trais a chamdriniaeth, wedi'u dilyn gan henaint, iechyd gwael a bod yn feichiog. Rwy'n credu, fodd bynnag, y dylai cysgu ar y stryd ym mhob achos bron, wneud rhywun yn gymwys ar gyfer statws angen blaenoriaethol, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Ac mae'n baradocs braidd ac yn her, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o aelodau o'r cyhoedd yn credu, os ydych ar y stryd, eich bod yn achos blaenoriaethol ar gyfer tai. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ymdrin yn uniongyrchol ag ef. Nodaf fod cod arweiniad Llywodraeth Cymru yn dadlau bod pobl sy'n cysgu ar y stryd yn debygol o fod yn agored i niwed am ryw reswm arbennig arall oherwydd goblygiadau iechyd a goblygiadau cymdeithasol eu sefyllfa, ond mae'n ymddangos bod peth gwahaniaeth yn ymarferol pan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth mewn gwirionedd. Ac mae llawer, neu rai beth bynnag—nifer sylweddol—o'r bobl sy'n cysgu ar y stryd nad ydynt yn gymwys i fod yn achosion blaenoriaethol. Felly, credaf fod angen archwilio'r pethau hyn yn ofalus iawn.
A gaf fi symud ymlaen i orffen at Cefnogi Pobl? Yn amlwg, mae hyn wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau heddiw oherwydd yr adroddiad rhagorol 'Housing Matters' a gynhyrchwyd gan nifer o sefydliadau yn y sector hwn. Nawr, mae argymhelliad 28 o adroddiad y pwyllgor yn gofyn
'Os yw canfyddiadau’r Cynlluniau Braenaru Cyllid Hyblyg yn dangos gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl, neu’n amau ynghylch gallu’r sector i gynnal y gwasanaeth ar y lefelau presennol, rydym yn argymell y dylai Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl barhau i fod yn grant ar wahân sydd wedi’i neilltuo.'
Ac rwy'n cytuno â hynny. Mae hwn yn faes rhy bwysig i darfu arno ar hyn o bryd, ac mae'r adroddiad yn glir fod y cynlluniau ariannu presennol yn creu risg sylweddol i'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl sy'n agored i niwed drwy raglenni tai a digartrefedd yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd gofal yn y maes polisi cyhoeddus hwn. Gallwch weld hefyd o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu pryder sylweddol iawn a'r pryder ar draws y sector ynglŷn â beth fydd yn digwydd i'r rhaglenni Cefnogi Pobl. A hebddynt, bydd y rheini sydd fwyaf o angen cymorth yn eu tenantiaeth neu sydd ar fin bod yn ddigartref a chysgu ar y stryd mewn sefyllfa fregus tu hwnt. Rhaid inni ddiogelu'r ffrydiau ariannu y maent yn dibynnu cymaint arnynt. Diolch.