Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw a hefyd i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, gan gynnwys y bobl ddigartref a roddodd amser i sôn wrthym am eu profiadau personol, ac fel y crybwyllodd Bethan Sayed roedd hynny'n ddadlennol iawn—y rhan fwyaf dadlennol o'r ymchwiliad mae'n debyg.
Un ffactor a ddaeth yn amlwg i mi yn ystod y rhyngweithio hwn oedd y berthynas agos i lawer o bobl ddigartref—nid yr holl bobl ddigartref wrth gwrs—rhwng eu digartrefedd, camddefnyddio alcohol a sylweddau, a phroblemau iechyd meddwl. Er na allwn ddisgrifio'r problemau hyn fel rhai sy'n cydberthyn yn achos pob unigolyn digartref wrth gwrs, mae'r themâu cyffredin hyn i'w gweld yn aml, a daeth hynny'n amlwg yn ystod yr ymweliadau—yn fy achos i, â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth yn Stryd Bute, i lawr y ffordd oddi yma.
Nododd rhywun, yn ystod yr ymchwiliad, fod y berthynas rhwng y problemau hyn ychydig bach fel plicio haenau nionyn, lle byddwch yn plicio'r digartrefedd ac yn darganfod, o oes, mae yna gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Ond wedyn gallwch blicio hwnnw a byddwch yn darganfod mai'r hyn sydd y tu ôl i hynny, mewn llawer o achosion, yw problemau iechyd meddwl, a achosir yn aml gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, mae'r rhain yn faterion cymhleth, ac mae'n anodd dod o hyd i atebion ymarferol weithiau i broblemau mor gymhleth.
Wrth edrych ar yr agweddau ymarferol a godai o'r ymchwiliad, ceir rhai rhwystrau i bobl sy'n cysgu ar y stryd rhag dod o hyd i lety dros dro neu lety mewn argyfwng hyd yn oed. Er enghraifft, dywedodd canolfan Huggard wrthym y bydd rhai unigolion yn cael eu heithrio o'r ddarpariaeth frys o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fod hynny'n cynnwys camddefnyddio sylweddau. Felly, yn amlwg, os yw pobl yn camddefnyddio sylweddau, mae'n ddibyniaeth, mae'n rhywbeth nad ydynt yn mynd i allu rhoi'r gorau iddo ar unwaith, felly mae'n anodd braidd pan na ellir eu cartrefu, hyd yn oed o dan y darpariaethau brys, gan y bydd yr ymddygiad hwnnw'n cael ei ddiffinio fel ymddygiad gwrthgymdeithasol. Felly, dyma un o'r anawsterau ymarferol sy'n ein hwynebu. Mae'r mathau hyn o bethau yn creu rhwystr i'r rhai sy'n ceisio lloches rhag digartrefedd.
O ystyried natur gymhleth y materion hyn, mae yna bryder clir iawn fod mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl yn hollbwysig. O'u gadael heb eu trin, a chydag amseroedd aros hir am rai gwasanaethau cymorth arbenigol, ceir perygl go iawn y bydd rhai pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ei chael hi'n amhosibl torri'r cylch sy'n arwain at fywyd ar y strydoedd. Felly, rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl.
Roedd adroddiad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfrifoldeb dros weithredu'r camau wedi ei rannu, fel y soniodd Cadeirydd y pwyllgor yn ei gyfraniad, rhwng y Gweinidog tai a'r Ysgrifennydd iechyd. Rydym yn aros i weld beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i'w ddweud am hynny heddiw, oherwydd mae problemau cysgu ar y stryd, ynghyd â materion iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a sylweddau, mor gydgysylltiedig fel bod angen gweithio'n drawslywodraethol fel yr unig ffordd o ddatrys y broblem yn realistig.
Hefyd galwasom ar y Llywodraeth i gyhoeddi adroddiadau chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd. Teimlem y byddai hyn yn sicrhau tryloywder ac yn gwella atebolrwydd. Yn anffodus, nid oedd y Llywodraeth yn cytuno â ni ar y pwynt penodol hwn a theimlai y byddai adroddiadau chwarterol yn rhy fiwrocrataidd. Wrth gwrs, mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag adnoddau hefyd. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid tuag at eu nod o ddileu cysgu ar y stryd, ond mae angen adnoddau dynol yn ogystal â chymorth ariannol. Er enghraifft, pan ymwelsom â hostel Byddin yr Iachawdwriaeth, mynegwyd pryderon gan y staff nad oedd digon o bobl hyfforddedig ar gael i allu ymdrin â'r problemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl cymhleth sy'n wynebu'r bobl sy'n cysgu ar y stryd a ddaw atynt. Felly, rhaid inni fynd i'r afael â'r prinder hwn os ydym o ddifrif ynglŷn ag ymdrin â'r mater hwn. Diolch yn fawr.