Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 13 Mehefin 2018.
Er bod ein dadl wedi sôn am ein gofalwyr ifanc a'r gwaith gwych a chalonogol y maent yn ei wneud, fel hyrwyddwr pobl hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn dynnu sylw at waith ein gofalwyr hŷn yng Nghymru. O'n 370,000 o ofalwyr di-dâl, mae tua 24 y cant—dyna 90,000—dros 65 oed, sef y gyfran uchaf yn y DU. Mae 65 y cant yn dweud bod ganddynt broblemau iechyd hirdymor neu anabledd eu hunain. Yn wir, mae dros ddwy ran o dair yn dweud bod yn ofalwr yn effeithio'n niweidiol ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Er bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi ehangu'r diffiniad o ofalwr ac wedi rhoi newidiadau ar waith i asesiadau gofalwyr, mae Gofalwyr Cymru wedi nodi nad oes llawer o dystiolaeth fod y Ddeddf wedi gwella bywydau ein gofalwyr.
Nawr, mae yna ddau bwynt allweddol yr hoffwn roi sylw iddynt o ran sut y gellid gwella bywydau gofalwyr hŷn, a gofalwyr o bob oed yn wir: asesiadau effeithiol o'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i barhau i ofalu, a gofal seibiant effeithiol o safon uchel. O ran asesiadau yn benodol, mae Gofalwyr Cymru'n nodi efallai fod cynghorau'n gweithredu'n anghyfreithlon os na wneir gofalwyr yn ymwybodol o'r sail gyfreithiol i'r sgyrsiau neu'r asesiadau y maent yn eu cael, gyda rhai cynghorau yn ôl y sôn yn defnyddio sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' fel asesiad, yn hytrach na chyfarfod ffurfiol a phenodol. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn egluro hyn yn llawn i ofalwyr. Mater sy'n peri mwy o bryder hefyd oedd y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfaddef mewn cwestiwn Cynulliad y llynedd, na fyddai'n bosibl pennu faint o ofalwyr a oedd wedi cael asesiad gan awdurdodau lleol oherwydd gwahaniaethau o ran diffiniadau ac amserlenni ar gyfer casglu data. Felly, wrth gwrs, rwyf am annog Llywodraeth Cymru i roi camau ar waith o ddifrif i wella'r sefyllfa, a gofyn sut y mae'n bosibl i'r Llywodraeth fonitro canlyniadau a llwyddiant y polisi hwn heb y data perthnasol.
O ran gofal seibiant, mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr wedi tynnu sylw at yr angen am fynediad hyblyg a safonol at seibiant hyblyg. Mae hyblygrwydd yn allweddol yma, oherwydd nid penwythnos i ffwrdd, neu wythnos mewn llety â chymorth yn unig yw gofal seibiant; gall olygu awr yn unig o warchod i alluogi gofalwr i daro i'r siopau, y banc, neu am baned o goffi sydyn gyda'u ffrindiau. Dychmygwch yr effaith y gallai methu gwneud y pethau hynny y byddwn mor aml yn eu cymryd yn ganiataol yn ei chael ar unigolyn.
Rydym yn siarad llawer am unigedd ac unigrwydd pobl hŷn yn y Siambr hon. Gall hyn effeithio ar ofalwyr hefyd. Er eu bod yn cael cwmni'r unigolyn y maent yn darparu gofal ar eu cyfer, gall hyn yn aml eu rhwystro rhag cael amser a hyblygrwydd i weld eu ffrindiau eraill ac aelodau o'u teuluoedd eu hunain. Rydym yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth genedlaethol ar gyfer gofal seibiant, ac addewid y llynedd o gronfa o £3 miliwn i awdurdodau lleol i gefnogi hyn. Ond unwaith eto, ni welwn fawr o dystiolaeth o gynnydd, a buaswn yn croesawu diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y mae hyn yn cael ei ddatblygu, strwythur y strategaeth hon, sut y mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, a faint o bobl sy'n gweld y manteision ac wedi cael gofal seibiant o dan y cynllun.
Lywydd—Ddirprwy—gwyddom am y gwaith amhrisiadwy y mae gofalwyr yn ei wneud yma yng Nghymru. Gwyddom eu bod yn arbed mwy na £8.1 biliwn y flwyddyn i'n heconomi, ond gall buddsoddi mewn gofalwyr arbed bron £4 am bob £1 a werir, ac mewn termau ariannol gallai manteision iechyd arbed £7.88 i'r system iechyd am pob £1 a werir. Rhaid i bawb ohonom weithio'n galetach i gydnabod eu hymrwymiad anhunanol i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed, a rhaid inni sicrhau eu bod yn cael ein cefnogaeth lwyr.
Rwy'n disgwyl i Lywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig heddiw ac ymrwymo i wella bywydau gofalwyr o bob oed yng Nghymru. Diolch yn fawr.