Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 13 Mehefin 2018.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny, os oes gennych amser? Diolch. Yr hyrwyddwyr gofalwyr rydych yn sôn amdanynt mewn ysgolion—a ydych yn rhagweld mai rhan o'u rôl fydd sicrhau eu bod yn cael asesiad ffurfiol gan awdurdodau lleol neu bwy bynnag y bydd y gwaith wedi'i roi ar gontract allanol iddynt ac y caiff anghenion y gofalwyr hynny eu diwallu yn sgil hynny? Ac a ydych chi hefyd, fel aelod o feinciau cefn y blaid sy'n llywodraethu, yn cytuno y dylid cyhoeddi'r wybodaeth honno?