1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 19 Mehefin 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae canser y prostad yn gyflwr creulon, sydd a chyfraddau llwyddiant rhyfeddol os ceir diagnosis yn ddigon cynnar—90 y cant a mwy. Yn anffodus, yn amlwg, mae sgrinio mewn rhai rhannau o'r DU ymhell o fod yn foddhaol. Yma yng Nghymru yn enwedig, yn anffodus, nid yw'r gallu i gael mynediad at y sganiwr MRI amlbaramedrig ar gyfer pedwar bwrdd iechyd yn bodoli, ac mae'n rhaid i bobl dalu symiau sylweddol i gael cynnal y sgan hwnnw yn y pen draw. Yn Lloegr, er enghraifft, lle mae'r sgan hwnnw ar gael, mae ganddo gyfradd ganfod o 92 y cant. Gan nad yw'r pedwar bwrdd iechyd, lle ceir cyfanswm o 700,000 o ddynion yn y byrddau iechyd hynny, yn gallu denu'r math hwnnw o sgrinio, pa ymrwymiad allwch chi ei roi, fel Prif Weinidog ac fel Llywodraeth, i gyflwyno'r sgrinio fel y bydd gennych chi fynediad at y sgrinio hwnnw, pa bynnag ran o Gymru yr ydych chi'n byw ynddi, fel y gellir cyflawni llawdriniaeth neu ymyrraeth yn brydlon os bydd angen hynny arnoch chi?
Cwestiwn pwysig, ac un sy'n haeddu ateb manwl, os caf i, Llywydd. Gallaf ddweud bod byrddau iechyd yng Nghymru yn gallu cynnig sganiau amlbaramedrig, yn unol â chanllawiau cyfredol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Mae'r canllawiau hynny ar hyn o bryd yn argymell yr mpMRI ar gyfer pobl â biopsi negyddol, i benderfynu a oes angen biopsi arall, a pha un a fydd rheoli canser profedig yn elwa ar fynd i'r afael â'r tiwmor mewn camau. Dynododd yr hyn a elwir yn 'dreial PROMIS' y gallai pobl â chanser y prostad tybiedig elwa ar gael eu mpMRI cyn biopsi. Mae NICE yn adolygu ei ganllawiau a disgwylir iddo gyhoeddi argymhellion yn ystod rhan gynnar y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, mae tystiolaeth yn cael ei hystyried gan fwrdd wroleg Cymru. Mae'n deg i ddweud bod gwahanol safbwyntiau ymhlith y clinigwyr ynghylch goblygiadau tystiolaeth ddiweddar, gyda rhai byrddau iechyd yn gweithredu elfennau dull diwygiedig. Yr hyn y gallaf ei ddweud, os bydd NICE yn argymell mpMRI cyn-biopsi ar gyfer canser y prostad tybiedig, yna byddem yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddiwygio eu llwybrau gofal yn unol â hynny. Yn y cyfamser, bydd byrddau iechyd yn parhau i ystyried y dystiolaeth a diwygiadau i lwybrau trwy fwrdd wroleg Cymru.
Diolchaf i chi am yr ateb manwl yna, Prif Weinidog. Yn anffodus, mae 10,000 o ddynion y flwyddyn yn marw o ganser y prostad—dyma'r lladdwr mwyaf ar ddynion. Ac mae'n rhaid i rywfaint o gyffredinolrwydd o ran y rhaglen sgrinio fod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw canser yn dibynnu ar godau post—mae'n gyffredinol. O ran y rhaglen sgrinio canser y coluddyn sydd gan Lywodraeth Cymru, fe'i galwyd, ar hyn o bryd, yn rhaglen sgrinio sydd wedi ei seilio'n fawr ar loteri cod post. Yn benodol, roedd un o bob pedwar o unigolion yn aros mwy nag wyth wythnos i gael diagnosis o'u triniaeth sgrinio, a chael ei rhoi ar waith pe byddai angen ymyrraeth. Mae naw cant o bobl y flwyddyn yn marw o ganser y coluddyn yma yng Nghymru. Pe byddai gennym ni, yn y pen draw, system sgrinio well, fwy cadarn a system sgrinio ehangach a fyddai'n cymryd 40 oed a hŷn i ystyriaeth, yna gallem ni ostwng y niferoedd hynny hyd yn oed ymhellach. O gofio ein bod ni'n ymwybodol o bwysigrwydd sgrinio ac, yn enwedig, sgrinio'r coluddyn, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i gwtogi amseroedd aros a fydd yn cael gwared ar yr un o bob pedwar—25 y cant o bobl—sy'n aros dros wyth wythnos i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnynt, oherwydd ni all fod yn iawn, pan fo modd trin y cyflwr, bod dim ond aros yn rhy hir ar restr aros yn cael effaith niweidiol ar eich canlyniad?
O ran sgrinio, mae'n gwestiwn o bwy ydych chi'n eu targedu ar gyfer y sgrinio, oherwydd ni allwch chi sgrinio pawb. Pa elfennau o'r boblogaeth sy'n arbennig o agored i fath penodol o ganser, oherwydd nid yw'n gorfforol bosibl i sgrinio pawb? Rydym ni eisiau, wrth gwrs, gweld cysondeb ar draws y byrddau iechyd. Maen nhw'n gallu cael mynediad at y gronfa triniaethau newydd, os yw hynny'n briodol ar gyfer yr hyn y maen nhw'n dymuno bwrw ymlaen ag ef. Yr hyn y gallaf ei ddweud, pan edrychwn ni ar ein llwybr canser tybiedig brys, er enghraifft, yw bod y mwyafrif llethol o bobl wedi dechrau triniaeth ddiffiniol yn unol â'r amser targed o 62 diwrnod—88.7 y cant—a dechreuodd 96 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser heb ddilyn y llwybr brys driniaeth ddiffiniol yn unol â'r amser targed o 31 diwrnod ym mis Mawrth 2018. Felly, mae'r mwyafrif llethol o bobl yn cael y driniaeth y dylent ei chael o fewn y cyfnod priodol o amser. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n dibynnu ar arbenigwyr i'n cynghori ni i wneud yn siŵr y gallwn ni weld sut y gallwn ni wella sgrinio pan fo hynny'n angenrheidiol.
Mae angen y gwelliannau hynny'n daer. Fel y dywedais, mae Bowel Cancer UK yn dweud ei fod yn argyfwng cenedlaethol bod un o bob pedwar o bobl yn aros wyth wythnos neu fwy i'r broses sgrinio honno gael ei chynnal. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod o gyhoeddiad y penwythnos y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud yw y bydd cynnydd sylweddol i'r gwariant sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru—[Torri ar draws.] Mae'r sgrinio—. Wel, gallaf glywed y grwgnach gan Aelodau meinciau cefn Llafur, ond y gwir yw bod arian yn dod draw i Lywodraeth Cymru.
Nawr, mae'n berffaith iawn, o dan y setliad datganoledig, eich bod chi'n dewis ble i wario'r arian hwnnw. O'r meinciau hyn, rydym ni'n credu y dylid gwario'r arian hwnnw ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i wneud y gwelliannau hynny o ran y prostad, y coluddyn a thriniaethau eraill sydd ar gael i gleifion yma yng Nghymru. Nawr, a wnewch chi ymrwymo heddiw i wneud yn siŵr bod unrhyw arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael ei wario ar y meysydd allweddol hynny, fel y gallwn ni weld y gwelliannau sydd eu hangen arnom ni'n daer i brofion diagnostig, amseroedd aros a recriwtio staff, y bydd rhannau eraill o'r DU sydd wedi ymrwymo i'w darparu yn y cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu gweld? Mae angen yr ymrwymiad hwnnw arnom ni, Prif Weinidog. A wnewch chi hynny?
Wel, y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei weld yw faint o arian y byddwn ni'n ei gael mewn gwirionedd, oherwydd mae dau bwynt pwysig i'w gwneud yma: yn gyntaf oll, rydym ni wedi cael ein hysbysu mai'r arian hwnnw, pa bynnag arian y byddwn ni'n ei gael, fydd y ffynhonnell o gyllid i ymdrin â chodiadau cyflog. Felly, bydd yn rhaid ariannu'r cam o godi'r cap cyflog trwy unrhyw arian a gawn ni drwy'r ffynhonnell y mae ef wedi cyfeirio ati. Felly, dyna'r peth cyntaf i'w grybwyll. Nid oes unrhyw arian ychwanegol ar ben hynny. Yn ail, wrth gwrs, nid yw'n wir byth, ydy hi, ein bod ni'n cael cyfandaliad o arian i dalu am faes penodol, fel iechyd neu addysg? Yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, fel y mae e'n gwybod, yw ei fod yn cael ei ddarparu drwy'r grant bloc. Yr hyn nad ydym ni'n ei wybod, os byddwn ni'n cael y cynnydd ym maes iechyd, pa un a fyddwn ni'n gweld gostyngiadau ym mhobman arall wedyn—mewn llywodraeth leol, mewn addysg, yn yr holl feysydd hynny sydd wedi'u datganoli. Nawr, mae'r rheini, wrth gwrs, yn cael eu tynnu o'r ffigur y mae newydd eu crybwyll. Felly, tan y byddwn ni'n gwybod yn gyntaf faint o arian net fydd yna mewn gwirionedd—rydym ni'n gwybod am yr £1.2 biliwn—a tan y byddwn ni'n gwybod, wrth gwrs, faint o arian—mae gennym ni syniad go lew—y bydd y cytundeb cyflogau yn ei gostio, ni fyddwn yn gwybod faint o arian sydd ar gael i'w wario. Tan i'r ffactorau hynny gael eu datrys—ac nid oes neb yn gallu gwneud hynny eto oherwydd nid ydym ni'n gwybod pa gynnydd neu beidio fydd yn ein bloc grant yn yr Hydref—a tan y byddwn ni'n gwybod y swm terfynol net o arian, mae'n anodd iawn gwneud unrhyw ymrwymiadau ar hyn o bryd.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU dros y penwythnos y byddai anrheg pen-blwydd o £20 biliwn y flwyddyn i'r GIG yn Lloegr. O ganlyniad i Barnett, disgwylir i Gymru gael £1.2 biliwn. Ddydd Sul, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru y byddai penderfyniad ar ddyraniad cyllid yn cael ei wneud gan eich Cabinet chi yn y ffordd arferol. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw eto, ac a fyddwch chi'n defnyddio unrhyw arian ychwanegol y byddwn ni'n ei gael ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol?
Wel, yr unig ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud yw y byddwn ni'n codi'r cap cyflog—yn anarferol, oherwydd nid ydym ni'n gwneud yr addewidion hynny cyn ein bod ni'n gwybod faint o arian sydd wedi ei ddyrannu, fel rheol. Felly, bydd yn rhaid talu am hynny o ba bynnag swm o arian y byddwn ni'n ei gael gan Lywodraeth y DU; nid oes unrhyw arian ychwanegol ar ei gyfer. Ac fel y dywedais yn yr ateb yn gynharach, nid yw'n mynd i fod yn £1.2 biliwn. Nid ydym ni'n gwybod pa un a fydd toriadau yn rhywle arall a fydd yn gostwng y ffigur hwnnw. Tan y byddwn ni'n gwybod beth yw'r ffigur terfynol, mae'n anodd iawn gwneud unrhyw ymrwymiadau o ran gwariant.
Diolch am yr ateb yna. Fy mhryder yn y fan yma yw bod problemau iechyd meddwl yn cynrychioli tua chwarter yr holl broblemau iechyd, ac eto rydym ni'n gwario cyn lleied â dros 11 y cant o gyllideb gyfan GIG Cymru. Rydym ni wedi gweld cynnydd o 100 y cant i'r galw am wasanaethau gofal iechyd meddwl plant a'r glasoed. Rydym ni'n gwybod bod iselder yn effeithio ar 22 y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod dros 65 oed. Rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i achosion o hunan-niwed, ac mae tua 300 o bobl yng Nghymru yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn—mae hyn tua dwywaith y nifer o bobl sy'n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd. Mae'n amlwg nad ydym ni'n gwneud digon i fynd i'r afael ag iechyd meddwl yng Nghymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn, beth bynnag y bydd, sy'n dod i Gymru i sicrhau bod cyllid iechyd meddwl yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd?
Gwnaf, ac yn arbennig, wrth gwrs, i edrych ar ei atal. Mae hynny'n bwysig iawn. Gyda CAMHS, mae'n iawn i ddweud y bu cynnydd sylweddol i'r galw am CAMHS a bodlonwyd y galw hwnnw gennym ni trwy ddyrannu—os cofiaf—£8 miliwn y flwyddyn tuag at CAMHS er mwyn iddyn nhw fodloni'r galw a oedd yno. Mae iechyd meddwl, fel y bydd yn gwybod, yn flaenoriaeth allweddol i ni yn 'Ffyniant i Bawb'. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod iechyd meddwl yn cael ei weld fel rhywbeth sy'n flaenoriaeth i bob llywodraeth yn y dyfodol, a bydd hynny'n llywio unrhyw benderfyniadau gwario yr ydym ni'n eu gwneud os oes unrhyw arian ychwanegol ar y bwrdd.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel yr wyf i wedi ei amlygu o'r blaen, lawer gwaith, bydd un o bob pedwar ohonom ni'n dioddef o salwch meddwl. Gallai ffrind neu gydweithiwr fod wedi bod yn ymladd iselder ers blynyddoedd—ni fyddem ni'n gwybod am y peth, oherwydd, yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth broblemau iechyd meddwl o hyd. Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn fwy agored am iechyd meddwl: ni fyddem ni'n ceisio cuddio coes sydd wedi torri, ond byddem yn ceisio cuddio iselder. Yn anffodus, o ganlyniad i stigma, mae llawer o bobl yn cymryd eu bywydau eu hunain yn y pen draw. Os byddwn ni'n cydnabod yr arwyddion ac yn cynnig cymorth anfeirniadol, gellid achub llawer o fywydau. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu hyfforddi fel swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, ac a wnewch chi ystyried ychwanegu'r hyfforddiant at y cwricwlwm ysgol ac annog cyflogwyr mawr i gael swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ochr yn ochr â'r swyddogion cymorth cyntaf arferol, gofynnol? Diolch.
Nid wyf i'n siŵr mai cymorth cyntaf yw'r ffordd i ymdrin ag ef. Mae hynny'n awgrymu rhywbeth sy'n acíwt, rhywbeth sydd newydd godi. Credaf ei fod yn fwy hirdymor na hynny. Derbyniaf y pwynt y mae arweinydd UKIP yn ei wneud o ran sut yr ydym ni'n ymdrin â phobl nad ydyn nhw'n dangos unrhyw arwyddion allanol o iselder. Rwyf i weld ei weld yn bersonol, mae gen i syniad go lew o sut y mae'n gweithredu mewn pobl, ond nid yw bob amser yn amlwg i'r rheini nad ydynt yn gyfarwydd â'r unigolyn dan sylw, ac mae'n anodd, wrth gwrs, oherwydd nid yw'r arwyddion allanol yno. Os byddwch chi'n torri coes, mae'n amlwg: mae'r arwyddion yno. Dyna pam yr wyf i eisiau gwneud yn siŵr pan fyddwn ni'n ystyried iechyd meddwl, nad ydym yn ei ystyried fel gwasanaeth sydd wedi ei gynllunio i helpu pobl dim ond pan fyddan nhw'n dioddef argyfwng, ein bod ni'n ystyried ffyrdd y gallwn ni helpu pobl ifanc yn arbennig—mae hynny'n bwysig, mae gennym ni gwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru—ond beth arall y gellid ei wneud, er enghraifft, i geisio helpu pobl nad yw'n amlwg bod angen cymorth arnynt. Nhw yw'r bobl, yn aml iawn, wrth gwrs, y mae angen i'r systemau eu nodi. O ran sut y gwneir hynny, wrth gwrs, byddwn yn bwrw ymlaen â hynny gydag ymarferwyr, i weld sut y gallwn ni greu gwasanaeth lle ceir mwy o bwyslais ar atal a llai ar ymdrin â symptomau pan eu bod yn dod yn amlwg.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno gyda'r cyfreithwyr amgylcheddol ClientEarth bod diffyg eglurder a manylder yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ansawdd aer?
Wel, rydym ni'n ystyried ansawdd aer a sut i'w wella. Nid wyf i'n mynd i gytuno gyda chwmni cyfreithwyr, yn amlwg, nad ydynt yn gyfreithwyr Llywodraeth Cymru, ond mae her, wrth gwrs, i wella ansawdd aer yn y dyfodol.
Mae llygredd aer yn gyfrifol am 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yn y wlad hon. Mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus, a dyma etifeddiaeth amgylcheddol eich Llywodraeth Lafur. Dyna pam mae Plaid Cymru yr wythnos hon wedi lansio ymgyrch, wythnos aer glân, ac fe lansiodd fy nghyd-Aelod Simon Thomas adroddiad cynhwysfawr ddoe ar swyddogaeth hydrogen yn y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Nawr, byddwn yn annog y Prif Weinidog i ddarllen yr adroddiad trylwyr hwn a arweinir gan arbenigwyr a chymryd sylw o'i argymhellion.
Prif Weinidog, mae'r argyfwng hwn yn cyfiawnhau gweithredu brys. O gofio mai ffordd yng Nghaerffili yw'r fwyaf llygredig y tu allan i Lundain, a wnewch chi gefnogi ein galwadau am Ddeddf aer glân i Gymru a fyddai'n rhoi terfyn graddol ar werthu cerbydau diesel a phetrol yn unig erbyn 2030?
Rwy'n credu bod hynny'n rhy gynnar; nid wyf i'n credu bod y dechnoleg yn barod. Rwy'n edrych ymlaen at adeg pan mai ceir trydan fydd y norm. Nid wyf i'n credu bod y dechnoleg yno ar hyn o bryd o ran yr amrywiaeth, ond rwy'n credu y bydd yn dod ar gael yn gyflym iawn, iawn.
Os cofiaf yn iawn, 2040 yw'r targed y mae Llywodraeth y DU wedi ei bennu, sy'n besimistaidd yn fy marn i, ond o weld datblygiad y dechnoleg yn y maes hwn, rwy'n credu y byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle bydd yn dod yn ddewis realistig. Fel rhywun sydd wedi bod yn gyrru car hybrid, mae'r batri yn fy nghar yn rhoi pellter o 28 milltir i mi. Nawr, dyna'r broblem. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y dechnoleg yn gywir i symud ymlaen, yn y ffordd y mae hi wedi ei disgrifio—mae hi'n iawn.
Yn y cyfamser, beth ddylem ni ei wneud? Ni allwn wneud dim. Wel, yn gyntaf, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwared ar ardaloedd lle mae traffig yn llonydd gyda injans yn rhedeg—mae hynny'n effeithio ar ansawdd aer—ac, wrth gwrs, gweld mwy o newid moddol, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, symud ymlaen â'r gwelliannau yr ydym ni'n mynd i'w gweld yn ein seilwaith rheilffyrdd, i'w gwneud yn fwy cyfforddus i bobl deithio ar y trên, mewn trenau sydd wedi eu haerdymheru, sy'n amlach, ac hefyd, wrth gwrs, symud ymlaen â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i wneud yn siŵr lle'r ydym ni'n gweld datblygiadau newydd—ar lwybrau beicio, er enghraifft—eu bod nhw'n rhan annatod o'r datblygiadau hynny, fel bod pobl yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw deithio mewn car.
Felly, ceir dau beth: yn gyntaf oll, creu'r newid moddol hwnnw, ac, yn ail, wrth gwrs, ceisio annog ffyrdd o sicrhau bod ceir batri yn gallu cyrraedd ymhellach yn y dyfodol, a'i bod yn llawer haws ei gwefru, hefyd, nag y mae hi ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai dyna pryd y gallwn ni gael y newid gwirioneddol.
Rwy'n cymryd, felly, o'ch ateb, eich bod chi'n anghytuno â chyngor Caerdydd dan arweiniad Llafur sydd wedi galw am wahardd cerbydau sy'n llygru erbyn 2030? Pam na all Llafur fod yn gyson ar unrhyw faes polisi? Mae'r diffyg brys, parodrwydd a'r diffyg o ran gallu gwneud pethau'n wahanol yn costio bywydau pobl. Gallwch chi chwerthin a mwmian—mae'n costio bywydau pobl.
Nawr, rydych chi eisoes wedi colli achos yn erbyn ClientEarth ac rydych chi'n wynebu rhagor o sgil-effeithiau cyfreithiol os na fydd atebion yn cael eu canfod yn gyflym. Gadewch i mi bwysleisio maint y broblem unwaith eto yn y fan yma. Mae aer yng Nghaerdydd a Phort Talbot yn fwy llygredig nag aer yn Birmingham a Manceinion, er gwaethaf y gwahaniaethau enfawr yn y boblogaeth. Dyma'r amgylchedd y mae eich Llywodraeth yn ei greu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Prif Weinidog, fel cam cyntaf un, a allech chi sicrhau bod y parc moduron arfaethedig yng Nglynebwy yn canolbwyntio ar ddatblygu cerbydau hydrogen a thrydan, gan roi Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro trafnidiaeth lân. A wnewch chi hynny o leiaf?
Tybed a yw hi neu bobl eraill ar feinciau Plaid Cymru yn gyrru car hybrid neu gar trydan? Distawrwydd. Wel, dylech chi ddilyn eich egwyddorion eich hun—dyna fyddwn i'n ei ddweud.
Ceisiwch wneud hynny yn Aberystwyth. Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r seilwaith, byddwn ni'n ei wneud.
Wel, Simon Thomas—[Anghlywadwy.] [Torri ar draws.]
Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb, os gwelwch yn dda.
Mae Simon Thomas yn iawn. Mae'n iawn i ddweud, 'Ceisiwch wneud hynny yn Aberystwyth.' Mae'n hollol iawn, nid wyf i'n anghytuno â hynny o gwbl, a dyna pam nad yw'r dechnoleg yn barod eto. Ond mae angen ei symud ymlaen. Wrth gwrs, rwy'n sylwi nad oes neb hyd yn oed yn gyrru hybrid—mae'n rhywbeth yr wyf i wedi ei wneud ers tair blynedd.
Beth bynnag, edrychwch, y pwynt yw hyn, ynte: sut ydym ni'n creu aer glân? Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Mae gwaith dur ym Mhort Talbot, ac mae hynny'n golygu, yn anochel, efallai na fydd ansawdd yr aer yno cystal ag y byddai mewn mannau lle nad yw'r gweithrediad diwydiannol hwnnw yno. Ond rydym ni angen iddo fod yno, ac, er tegwch, mae Tata wedi gwneud llawer iawn o ymdrech ac wedi cymryd brasgamau lawer i leihau eu hallyriadau dros y blynyddoedd, ac mae hynny wedi cael effaith ar Bort Talbot. Ceir problem draffig ym Mhort Talbot hefyd nad yw'n hawdd ei datrys, y bydd angen ei hystyried yn y dyfodol. Caerdydd — wel, ydy, rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud ei bod yn debygol ei bod hi'n haws gyrru car trydan yng Nghaerdydd os yw pobl yn cymudo pellter byr, ac mae hynny'n rhywbeth i'w annog ac mae'r seilwaith yn cael ei—[Torri ar draws.] Wel, mae hi'n gwneud y pwynt am y fflyd weinidogol pan nad oes neb yn ei phlaid ei hun yn gyrru'r math hwnnw o gar, o ystyried y pellteroedd hir. [Torri ar draws.] Ie, ond nid fi yw'r un, aie—? [Torri ar draws.] Nid fi yw'r un sy'n dweud y dylem ni symud at geir batri cyn gynted â phosibl. Nhw sy'n dweud hynny.
Mae cyngor dinas Caerdydd yn dweud hynny.
Dilynwch eich egwyddorion eich hun.
Yr ail beth, wrth gwrs—ac yn y byrdymor—yw mai'r ffordd o wneud hyn yw annog mwy o bobl allan o'u ceir, a hefyd, wrth gwrs, sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus mewn ffordd mor gyfleus â phosibl. Rydym ni'n gwneud hynny, er gwaethaf y feirniadaeth a wnaeth Plaid Cymru o'r fasnachfraint reilffyrdd—yr unig bobl a wnaeth ei beirniadu. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan Gymru gyfan y strwythur rheilffyrdd gorau ym Mhrydain. Rydym ni wedi dangos y ffordd i weddill Prydain. Nid yw hi bellach yn dda i ddim i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd deithio ar drenau hynafol gyda dim aerdymheru a gwasanaeth annibynadwy. Mae hynny'n mynd i newid. Bydd pobl yn cael y trenau y maen nhw'n eu haeddu a bydd pobl yn gallu cael mynediad at y llwybrau beicio y maen nhw'n eu haeddu. Bydd pobl yn gweld, gan ein bod ni wedi cymryd pwerau dros fysiau erbyn hyn, rhwydwaith bysiau a threnau a rheilffordd ysgafn integredig. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig i bobl Cymru—gweledigaeth wirioneddol i lenwi'r bwlch hwnnw tan y bydd y dechnoleg sydd ar gael ac y bydd y pellter ar gael ar gyfer ceir sy'n cael eu pweru gan fatri.