Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 19 Mehefin 2018.
Mae’r nod o greu cenedl noddfa yng Nghymru yn un y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi, wrth gwrs, ac yn ei gefnogi yn llwyr ac yn ymgyrchu drosto, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod bod yna nifer o rwystrau’n bodoli wrth geisio gwireddu’r uchelgais. Mae llawer o’r rhwystrau hyn yn deillio o’r ffordd y mae’r drafodaeth gyhoeddus ar fudo wedi cael ei llywio—yn rhy aml, rhagfarn, camwybodaeth a chanfyddiadau anghywir sydd yn llywio’r ddeialog. Mae’n rhaid i unrhyw gynllun i integreiddio ceiswyr lloched a ffoaduriaid, ac i greu cenedl noddfa, gydnabod hynny a cheisio creu’r newid diwylliannol yn ogystal â’r newid gwleidyddol. Felly, a fedrwch chi amlinellu beth y mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i gywiro’r rhagfarn a’r canfyddiadau anghywir?
Mae’r datganiad heddiw yn cydnabod bod llawer o’r problemau sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dod o ganlyniad i faterion sy’n deillio o’r Swyddfa Gartref. Er enghraifft, rŷm ni’n gwybod bod fisas wedi cael eu gwrthod i dros 2,000 o ddoctoriaid yn unol â pholisi mudo’r Deyrnas Unedig. Yn anffodus, mae’ch plaid chi wedi gwrthod caniatáu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fisas yn seiliedig ar anghenion gweithlu Cymru. O gofio’r angen dybryd am ddoctoriaid, a ydych chi’n fodlon ailystyried y safbwynt yma?
Mae’r newidiadau i fudd-daliadau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith pellgyrhaeddol ar fywydau ffoaduriaid. Mae’r Welsh Refugee Coalition yn dweud bod eisiau ceisio ffyrdd i liniaru effeithiau negyddol diwygio lles ar ffoaduriaid, yn ogystal â monitro hynny. Mi fyddwch yn gwybod—rydych chi wedi fy nghlywed sawl gwaith yn dadlau—y byddai datganoli elfennau o weinyddu’r gyfundrefn les yn ein galluogi ni yng Nghymru i liniaru rhai elfennau ac i greu diwylliant mwy dyngarol. Felly, a gaf i ofyn ichi eto i edrych yn ofalus ar y posibiliadau a dysgu gwersi gan yr Alban? Rydw i'n credu y byddai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwerthfawrogi ymrwymiad gan eich Llywodraeth chi heddiw i ystyried, o leiaf, y posibilrwydd ac i ddod ag adroddiad llawn gerbron y Cynulliad sydd yn edrych yn fanwl ar y manteision a'r anfanteision. Nid ydym ni wedi cael y dadansoddiad trwyadl yna cyn belled, ac rydw i'n meddwl y byddai fo'n fuddiol iawn i gael hynny.
Mae eich datganiad yn sôn am lety ar gyfer ffoaduriaid, ac ar hyn o bryd mae'r Swyddfa Gartref wrthi'n penderfynu pa ddarparwr preifat fydd yn darparu llety i geiswyr lloches yng Nghymru ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. A fedrwch chi amlinellu beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod safon y llety yn cael ei wella, a bod y darparwr ei hun yn cael ei ddal yn gwbl atebol ar gyfer cyfnod y cytundeb yn ei gyfanrwydd? Rydym ni'n gwybod bod digartrefedd, yn anffodus, yn broblem fawr ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a'r wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Crisis ei gynllun uchelgeisiol i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y Deyrnas Unedig. Mae rhan o'r cynllun yn sôn am fudwyr a'r newidiadau deddfwriaethol penodol sydd eu hangen. A fedrwch chi ymrwymo i edrych yn fanwl ar argymhellion Crisis gan lobïo am y newidiadau y maen nhw am eu gweld yn yr ardaloedd sydd ddim wedi eu datganoli?
Ac yn olaf, rydw i eisiau trafod dileu'r grant MEAG i awdurdodau lleol—y grant pwysig yma, y grant addysg cyflawni ar gyfer lleiafrifoedd ethnig. Mae hwn yn hanfodol i sicrhau bod sgiliau iaith yn cael eu dysgu mewn ffordd briodol i blant sydd ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg, ond mae diflaniad y grant yma am ei gwneud hi'n anodd iawn i blant ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu dwy iaith ein gwlad ni. Felly, fy nghwestiwn i ydy: onid oes angen atgyfodi'r MEAG? Wedi'r cyfan, mae sgiliau iaith yn hanfodol er mwyn integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn llawn yn ein cenedl noddfa, a hynny, yn y pen draw, ydy'r ffordd orau o ddileu rhagfarn a bod yn groesawgar yng ngwir ystyr y gair.