Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch. Mae Mick Antoniw yn gwneud sylw diddorol iawn, ac rwy'n cyfarfod â Chymdeithas Milfeddygon Prydain yr wythnos nesaf, ac mae'n rhywbeth y byddaf i'n hapus iawn ei drafod gyda nhw. Nid wyf wedi cael trafodaethau ynghylch hynny gyda'm cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, ond byddaf yn sicr yn siarad â Chymdeithas Milfeddygon Prydain i ddechrau i weld beth yw eu cynghor nhw, ond rwy'n hapus iawn ystyried unrhyw gydweithio a fyddai'n helpu pobl â ffioedd milfeddygol.