Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 19 Mehefin 2018.
Nid ydym ni cweit yn yr un lle efo'r Bil yma eto. Mae yna amheuon, a waeth i ni beidio ag anwybyddu rheini, ynglŷn â pham ein bod ni yn gwneud hyn, pa mor effeithiol fydd hyn, ac nid ydy'r dystiolaeth gennym ni yn llawn. Ond mae'r dystiolaeth yn gryf bod defnyddio cymhellion ariannol—hynny ydy, newid prisiau diodydd—yn effeithio ar faint mae pobl yn ei yfed, ac rydw i'n cefnogi hynny fel mater o egwyddor, ac mae o wedi bod yn rhan o faniffesto Plaid Cymru ers rhai blynyddoedd.
Trethi y byddwn ni'n dewis eu defnyddio, fel rydw i wedi'i ddweud o'r blaen, ond nid ydy'r pwerau gennym ni. Rydw i'n gobeithio y byddan nhw ryw ddydd, ond, yn absenoldeb hynny, mae gosod isafbris yr uned yn opsiwn sydd ar gael i ni. Felly, ar ôl llwyddo i gryfhau'r Bil gwreiddiol mewn sawl ffordd yn ei daith drwy'r Cynulliad, mi bleidleisiwn ni o blaid y Bil yma heddiw iddo ddod yn Ddeddf. Rydym ni wedi'i gryfhau o mewn sawl ffordd drwy ddylanwadu ar y sgrwtini fydd yna o'r Ddeddf yma gan y Cynulliad i werthuso ei effeithlonrwydd.
Mae'n hanfodol rŵan bod y Llywodraeth yn dod â thystiolaeth gwbl glir i ni ynglŷn â lefel briodol yr isafbris, ac rydw i'n gresynu bod rhuthr taith y Mesur hwn wedi methu â chaniatáu’r math o sgrwtini y byddwn i wedi dymuno ei gael ar y pris hwnnw, ond mi fydd yna gyfle eto drwy'r rheoliadau i ni allu edrych ar y dystiolaeth honno, ac mi fydd mesur a gwerthuso yn hanfodol er mwyn i ni ddod â phobl Cymru efo ni ar y daith. Rydym ni hefyd wedi mynnu bod yna, ar wyneb y Bil, ymrwymiad i ddysgu ac addysgu pobl ynglŷn â pham bod y ddeddfwriaeth yma yn gallu bod yn rhan o'r swît o arfau sydd gennym ni i helpu ag iechyd y cyhoedd.
Mae yna wendid yma yn y Ddeddf, ac rydw i'n gresynu eto bod y Llywodraeth wedi methu â chefnogi hynny, i edrych ar sut i atal elwa ar y Ddeddf yma wrth i fân-werthwyr orfod gwerthu diodydd am brisiau uwch. Mi fyddwn ni wedi dymuno gweld rhywbeth mewn deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod yna arian yn dod yn sgil y ddeddfwriaeth yma er mwyn gallu cael ei wario ar daclo camddefnydd alcohol a rhoi triniaeth i'r rheini sydd yn camddefnyddio ac yn goryfed. Mi fyddwn ni'n gorfod edrych rŵan ar lefi wirfoddol, ond rydw i yn credu bod yna gyfle wedi cael ei golli yma, ac, yn sicr, mi fyddaf i yn y dyfodol, wrth i ni sgrwtineiddio a chwilio am ffyrdd i gryfhau hyn, yn chwilio am ffyrdd i sicrhau nad oes yna elwa yn digwydd.
Rydym ni wedi clywed droeon bryderon y byddai pobl ar incwm is yn cael eu taro'n annheg, ac rydw i wedi meddwl llawer iawn am hyn. Wrth gwrs, mae'n sgandal mai pobl incwm is sydd fwyaf tebyg o ddioddef salwch yn deillio o gamddefnydd alcohol: mae'n enghraifft o'r annhegwch cymdeithasol, yr anghysondeb mewn cyfleon y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw drwy ystod eang o fentrau polisi. Ond beth am yr effaith ar bobl sy'n goryfed rŵan, yr ofnau y bydd yfwyr cymedrol ar incwm is yn dioddef, a hynny'n annheg o ran y gost ariannol? Rydw i'n gobeithio, drwy'r rhaglen o addysgu a ddaw law yn llaw efo'r Ddeddf yma, y bydd pobl—mwy a mwy o bobl, dros amser—yn gweld bod modd iddyn nhw addasu eu harferion yfed mewn ffordd sydd yn golygu na fydd cosb ariannol. Rydw i'n gobeithio y bydd diwydiant yn ymateb drwy ostwng cynnwys alcohol, er enghraifft. Mi all bobl yfed diod efo cynnwys is o alcohol neu yfed rhywfaint yn llai. Oherwydd mae yna neges rŵan drwy'r darn yma o ddeddfwriaeth na allwn ni ystyried alcohol fel rhywbeth benign.
Ond, yn bennaf oll, gadewch i ni weld hwn fel mesur ar gyfer ein plant ni. Rydw i'n gobeithio y bydd y Ddeddf yma yn arf a all arwain at lai o bobl ifanc Cymru yn dechrau goryfed, yn y modd mae rheolau llym ym maes ysmygu wedi arwain, heb os, at ostyngiad yn nifer ysmygwyr ifanc. Iechyd Cymry'r dyfodol sydd wirioneddol yn y fantol yn fan hyn.