Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 19 Mehefin 2018.
Bil iechyd y cyhoedd ydy hwn. Mae gwarchod, hybu a gwella iechyd y cyhoedd, siawns, yn un o’n prif ddyletswyddau ni. Mae arfau yn y frwydr yn erbyn smygu yn rhai mae pobl yn disgwyl i ni eu defnyddio erbyn hyn, ac maen nhw'n cefnogi hynny. Mae’n anodd dychmygu, erbyn hyn, gwrthwynebiad i waharddiad ar ysmygu dan do erbyn hyn, ac nid oedd gweithredu y Ddeddf honno yn anodd achos mi dderbyniodd pobl beth oedd y pwrpas—mae mwg ail law yn ddrwg i chi, ac mae pobl yn gwybod hynny.