Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 20 Mehefin 2018

Wel, nid yw’n dderbyniol i mi, ac rwy’n siŵr nid yw’n dderbyniol i’r Pwyllgor Cyllid hefyd pan maen nhw’n gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol, y person yn San Steffan sy’n gyfrifol—maen nhw’n dweud—i ni yng Nghymru ac nid yw’n fodlon dod i roi tystiolaeth i’r pwyllgor.

Rwyf wedi darllen nifer o bethau sydd wedi dod i mewn i’r pwyllgor o bobl eraill, ac mae lot o dystiolaeth ddiddorol wedi dod i mewn. Gwelais i Julie Morgan a phobl eraill o flaen y pwyllgor. Rwy’n edrych ymlaen at ddod hefyd. Nid hwn yw'r tro cyntaf i’r Ysgrifennydd Gwladol gael cyfle i ddod i’r Pwyllgor Cyllid, ac nid ydy e’n fodlon gwneud hynny. Rwy’n derbyn bob tro, bob cyfle sydd gyda fi, i godi dyfodol y cronfeydd strwythurol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond nid hynny yw'r unig ffordd i wneud hynny.