Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:49, 20 Mehefin 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel rwyf newydd ei glywed yn ystod y sesiwn yma, mae'r cronfeydd strwythurol wedi bod yn bwysig iawn i Gymru ac i economi Cymru, ac fel rhan o baratoi tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi dechrau ar ymchwiliad i'r cronfeydd strwythurol, er enghraifft, beth ddaw yn eu lle nhw: cronfa cyfoeth ar y cyd, Horizon 2020, sydd newydd gael ei grybwyll.

Yn y broses yna, rydym wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol ddod i'r pwyllgor i roi tystiolaeth ac nid oedd yn syndod i fi, ond roedd e, serch hynny, yn dipyn o sioc, mewn ffordd, i dderbyn llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud nad oedd e'n meddwl bod angen iddo ddod i’r pwyllgor. Mwy na hynny, nid yw wedi paratoi unrhyw dystiolaeth ar gyfer y pwyllgor. Nid wyf yn meddwl bod hyn yn dangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â phwyllgorau’r Cynulliad hwn mewn ffordd sydd yn briodol ac sydd yn barchus, ond a fedrwch chi ddweud eich hun, a ydych chi’n ymddiried yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i baratoi’r ffordd tuag at ariannu strwythurol dros bob gwlad yn y Deyrnas Gyfunol wrth inni weld y cronfeydd strwythurol yn diflannu?