Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:02, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Gwn nad yw'r Blaid Lafur yn credu mewn llinellau coch; maent yn credu mewn codi baneri gwyn ar y materion hyn—baner wen i ildio i'r UE ar yr holl faterion pwysig. Mae'r Blaid Lafur yn blaid ryng-genedlaethol, ac maent yn gyson yn nodi eu rhinweddau mewn perthynas â buddiannau gwledydd tlawd mewn rhannau eraill o'r byd am resymau rwyf innau, i raddau helaeth, yn cytuno â hwy. Mae undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd yn sgêm ddiffyndollol sy'n amharu ar ein masnach gyda gweddill y byd, yn dal y bobl dlotaf yn ôl dramor, gan godi prisiau a chostau i'r bobl dlotaf gartref. Mae hynny, felly, yn dangos mai nonsens yw'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â rhoi buddiannau pobl sy'n gweithio, boed gartref neu dramor, ar frig yr agenda.