Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 20 Mehefin 2018.
Wel, Lywydd, mae'n sicr er budd pobl sy'n gweithio ledled Cymru, boed yn y diwydiannau gweithgynhyrchu, lle mae nwyddau'n croesi ffiniau'r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd bob dydd, neu yn ein sectorau bwyd ac amaethyddiaeth, lle mae allforwyr yn dibynnu ar allu cael eu nwyddau i'r man lle y cânt eu bwyta yn ffres—mae'n sicr er budd busnesau Cymru a phobl sy'n gweithio yng Nghymru fod gennym fasnach rydd a diffrithiant. Dyna mae'r undeb tollau yn ei sicrhau, a phan fydd gennym rwystrau ar y ffin, a busnesau yng Nghymru na allant fasnachu mwyach o ganlyniad i'r prosbectws y mae'n ei nodi, fe'u dargyfeiriwn at yr Aelod er mwyn iddo ef allu egluro'r sefyllfa y mae wedi ein harwain iddi.