Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 20 Mehefin 2018.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am hynny? Yn yr amser cymharol fyr y mae wedi bod yn Aelod Cynulliad, mae eisoes wedi dod i amlygrwydd fel llefarydd pwysig ar ran y diwydiant awyrofod, oherwydd ei bwysigrwydd i'w etholaeth ei hun. Lywydd, mae rhai dadansoddiadau difrifol yn awgrymu mai'r diwydiant awyrofod yng Nghymru yw'r diwydiant a fyddai'n cael ei beryglu fwyaf oll yn sgil Brexit llawn tariffau. Nid yw hynny'n syndod, ydy e, gan fod y diwydiant awyrofod yn dibynnu ar gydrannau'n croesi ffiniau bob dydd er mwyn gallu llwyddo. Felly, mae Jack Sargeant yn llygad ei le yn tynnu sylw at y peryglon a fyddai'n wynebu diwydiannau a swyddi yn ei rannau ef o Gymru pe na baem yn llwyddo i negodi Brexit synhwyrol sy'n rhoi swyddi a'n heconomi ar y brig yn y negodiadau hynny.