1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2018.
3. Beth yw goblygiadau ariannol methu â chadw'r farchnad gyffredin ar gyfer masnachu nwyddau rhwng Cymru a gweddill Ewrop? OAQ52377
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn dilynol perthnasol iawn. Mae economi'r DU eisoes wedi newid o fod yn un o'r economïau mawr sy'n tyfu gyflymaf i fod yr arafaf yn y G7, o ganlyniad i'r ansicrwydd a grëwyd yn sgil dull di-drefn Llywodraeth y DU o ymdrin â Brexit. Bydd unrhyw leihad yn y mynediad at farchnadoedd Ewrop yn cyfyngu ar dwf, yn arwain at golli swyddi ac yn peryglu'r adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ganolbwyntio ar y goblygiadau posibl o ran y bwyd rydym yn ei fewnforio os bydd yn rhaid inni orfodi tariffau ac anhrefn ar ein ffiniau. Ar hyn o bryd, rydym yn mewnforio gwerth £9 biliwn o ffrwythau a llysiau o'r Undeb Ewropeaidd, o gymharu â'r gwerth £1 biliwn o ffrwythau a llysiau rydym yn eu tyfu yn y wlad hon, felly mae hwn yn fater arwyddocaol iawn o ran y math o fwyd y mae angen inni ei fwyta i gadw'n iach. Gwn fod rhai elfennau yn y Blaid Geidwadol yn cefnogi mewnforio bwyd rhad o'r Unol Daleithiau, fel cyw iâr clorinedig a chig eidion a driniwyd â hormonau, ond mae'r rhan fwyaf ohonom eisiau gwybod am yr amodau y caiff ein bwyd ei dyfu ynddynt, ac yn benodol, tybed pa ystyriaeth a roddwyd i ddiogelu'r cyflenwad bwyd, oherwydd os na allwn gael gafael ar y cynhyrchion rydym yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd, yn amlwg, bydd cynnydd enfawr yng nghost y cynhyrchion hynny, ac ni fydd digon ar gael i fwydo'r boblogaeth. Ni wyddom o hyd beth fydd dyfodol taliadau colofn 1. Mae Gove yn dweud pethau mawr am golofn 2 a manteision amgylcheddol nwyddau cyhoeddus, ond beth fydd y goblygiadau o ran cynhyrchu bwyd, er mwyn bwydo ein poblogaeth ein hunain, os nad oes gennym ryddid i symud y nwyddau hanfodol hyn o Ewrop?
Wel, diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn dilynol. Yn fy ateb i Neil Hamilton, canolbwyntiais ar effaith Brexit caled ar allforwyr bwyd, ond mae'n llygad ei lle i dynnu sylw at yr effaith ar y bwyd rydym yn ei ddefnyddio yn y wlad hon pe baem yn cael naill ai Brexit caled a fyddai'n golygu na allem fewnforio bwyd ffres mewn modd amserol, neu'r math o Brexit y mae pobl Brexit digyfaddawd yn ei awgrymu, lle byddem yn aberthu safonau amgylcheddol a safonau bwyd er mwyn ceisio ennill bywoliaeth ar draws y byd. Nid oes yr un o'r rheini'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru, nac i bobl Cymru. Roeddwn yn Weinidog iechyd yn ystod y sgandal cig ceffyl, pan welsom beth sy'n gallu mynd o'i le pan nad oes gennych safonau priodol—[Torri ar draws.]—pan nad oes gennych safonau priodol i sicrhau bod y bwyd sy'n cyrraedd platiau pobl yma o safon—[Torri ar draws.] Mae arnaf ofn nad oes unrhyw—[Torri ar draws.]
Mark Reckless.
Rwy'n rhyfeddu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhyddhau'r UE o bob cyfrifoldeb am y sgandal cig ceffyl. Mae'n syfrdanol ei fod yn dweud bod Jenny Rathbone yn 'llygad ei lle' pan ddywed y bydd yn rhaid inni osod tariffau, ond Ysgrifennydd y Cabinet, onid dewis ar gyfer y wlad hon yw gosod tariffau ai peidio? O gofio ein bod wedi cael ardal masnach rydd gyda'r UE, gallem gynnal hynny'n unochrog am hyd at 10 mlynedd heb orfod newid ein tariffau Sefydliad Masnach y Byd mewn mannau eraill. Ac onid yw'n wir, yn y senario lle byddem yn newid i dariffau Sefydliad Masnach y Byd, sy'n sicr yn rhywbeth nad wyf yn ei gefnogi, byddai hynny'n arwain at oblygiadau cadarnhaol i nifer o sectorau? Ar hyn o bryd mae gennym—. Mae chwarter yr holl gig eidion rydym yn ei fwyta yn cael ei gyflenwi gan Iwerddon. Pe baem yn sydyn yn gweld tariff o 50 y cant ar laeth a chig eidion o Iwerddon, oni fyddai hynny'n rhoi cyfleoedd enfawr i'r sector cig eidion a llaeth yng Nghymru?
Ymddengys i mi fod yr Aelod yn rhywun sy'n lledaenu rhai o'r mythau mwyaf niweidiol ynghylch Brexit. Hoffwn fynd ag ef i gyfarfod â phobl yn y diwydiant cig eidion yng Nghymru i glywed beth sydd ganddynt i'w ddweud ynglŷn â'r risgiau i'w bywoliaeth yn sgil y math o bolisïau y byddai ef yn awyddus i'w dilyn, ac nid yw'n wir o gwbl, Lywydd, ac mae hyn yn un o'r mythau Brexit sy'n cael eu lledaenu dro ar ôl tro, ein bod rywsut, drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, yn symud i ryw le heb reolau lle y gallwn wneud unrhyw beth y dymunwn pryd bynnag y dymunwn. Ni fydd hynny byth yn wir. Ni waeth pa drefniadau a fydd gennym, bydd yna reolau y bydd yn rhaid inni eu derbyn, a chan na fyddwn yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd mwyach, ni fydd gennym y gallu i negodi a ddaw yn sgil bod yn rhan o un o flociau mawr y byd, a bydd y termau y bydd yn rhaid inni ddod i'r math o gytundebau y mae ef yn eu cymryd yn dermau a fydd yn dra anfanteisiol i'r wlad hon.
Credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn yno ar oblygiadau Brexit i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae fy etholaeth i yn enghraifft berffaith, mewn gwirionedd, gydag etholaeth a bleidleisiodd i adael, ond sy'n un â diwydiant yn ganolog iddi, a diwydiant pwysig iawn hefyd. Mae sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw rhwng gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau'r fargen orau yn eithriadol o anodd, ond mae'n hanfodol bwysig. Mae Airbus, yn yr etholaeth, yn enghraifft berffaith o gyfraniad a chydweithrediad Ewropeaidd. Mae fy nghwestiwn yn syml, Ysgrifennydd y Cabinet: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryderon fod busnesau eisoes yn gorfod cynllunio ar gyfer y math gwaethaf o gytundeb gan nad oes unrhyw eglurder nac arweiniad gan Lywodraeth y DU?
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am hynny? Yn yr amser cymharol fyr y mae wedi bod yn Aelod Cynulliad, mae eisoes wedi dod i amlygrwydd fel llefarydd pwysig ar ran y diwydiant awyrofod, oherwydd ei bwysigrwydd i'w etholaeth ei hun. Lywydd, mae rhai dadansoddiadau difrifol yn awgrymu mai'r diwydiant awyrofod yng Nghymru yw'r diwydiant a fyddai'n cael ei beryglu fwyaf oll yn sgil Brexit llawn tariffau. Nid yw hynny'n syndod, ydy e, gan fod y diwydiant awyrofod yn dibynnu ar gydrannau'n croesi ffiniau bob dydd er mwyn gallu llwyddo. Felly, mae Jack Sargeant yn llygad ei le yn tynnu sylw at y peryglon a fyddai'n wynebu diwydiannau a swyddi yn ei rannau ef o Gymru pe na baem yn llwyddo i negodi Brexit synhwyrol sy'n rhoi swyddi a'n heconomi ar y brig yn y negodiadau hynny.