Masnachu Nwyddau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:09, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn yno ar oblygiadau Brexit i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae fy etholaeth i yn enghraifft berffaith, mewn gwirionedd, gydag etholaeth a bleidleisiodd i adael, ond sy'n un â diwydiant yn ganolog iddi, a diwydiant pwysig iawn hefyd. Mae sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw rhwng gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau'r fargen orau yn eithriadol o anodd, ond mae'n hanfodol bwysig. Mae Airbus, yn yr etholaeth, yn enghraifft berffaith o gyfraniad a chydweithrediad Ewropeaidd. Mae fy nghwestiwn yn syml, Ysgrifennydd y Cabinet: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryderon fod busnesau eisoes yn gorfod cynllunio ar gyfer y math gwaethaf o gytundeb gan nad oes unrhyw eglurder nac arweiniad gan Lywodraeth y DU?