Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch am eich ateb. Rwy'n croesawu'r ffaith bod wyth awdurdod lleol wedi rhoi esemptiad i bobl sy'n gadael gofal yn eu hardaloedd rhag talu'r dreth gyngor hyd nes y byddant yn 25 oed, gan gynnwys un yn fy rhanbarth i, Ynys Môn. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl sy'n gadael gofal bontio'n well i fyw'n annibynnol heb ofni ymateb anghymesur gan gynghorau os na allant dalu'r dreth gyngor. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda gweddill y cynghorau yng ngogledd Cymru ac yng ngweddill Cymru i sicrhau bod pawb sy'n gadael gofal â hawl i'r esemptiad hwn er mwyn osgoi loteri cod post?