Lefelau'r Dreth Gyngor yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:11, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Mandy Jones am ei chwestiwn? Cyfrifoldeb awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd yw pennu'r dreth gyngor. Maent yn atebol i'w poblogaethau lleol am y penderfyniadau a wnânt. Unwaith eto, rydym wedi parhau i amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag effeithiau gwaethaf cyni yn y setliad ar gyfer 2018-19.