Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 20 Mehefin 2018.
Yn dilyn y toriadau i gyllideb Cyngor Sir Ddinbych y flwyddyn ddiwethaf, mae'n debyg y byddai'n rhaid i sir Ddinbych gynyddu ei threthi cyngor 20 y cant dim ond i ddal lan gyda lle maen nhw ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod, tra bod y cyllidebau yn crebachu, bod costau yn cynyddu hefyd. Mi fydd nifer ohonom ni, rydw i'n siŵr, yn croesawu'r ffaith bod nifer o weithwyr yn y cyngor yn mynd i dderbyn codiad cyflog, yn enwedig y rhai yn y bandiau is, ond y cwestiwn rydw i am ei ofyn i chi yw: am ba hyd ŷch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet â chyfrifoldeb am gyllid, yn credu ei bod hi yn gynaliadwy i gynghorau sir fedru parhau i ddelifro nid dim ond gwasanaethau anstatudol, ond gwasanaethau statudol mewn cyd-destun ariannu mor anghynaladwy?