Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 20 Mehefin 2018.
Wel, Llywydd, mewn cyfnod o gyni lle rydym ni i gyd dan bwysau o'r toriadau sy'n dod o San Steffan i Gymru, rydw i'n cydnabod y ffaith bod pobl yn yr awdurdodau lleol yn ymdopi â sefyllfa anodd dros ben. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi gweithio yn galed i drial rhoi arian i'r awdurdodau lleol. Nid oedd yna ddim toriad i'r cash rydym ni'n ei roi iddyn nhw yn y flwyddyn ariannol yma, ac rydw i'n bwrw ymlaen gyda'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am awdurdodau lleol i weithio yn galed gyda'n gilydd pan fyddwn ni'n paratoi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.