Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 20 Mehefin 2018.
Gwnaf. Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol yn cynnwys manylion ynglŷn â'n hamcanion cydraddoldeb sy'n sicrhau bod y ffordd rydym yn llywodraethu yn cael effaith o ran sicrhau bod ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol. Bydd yr adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhywiol, sydd ar waith, yn nodi camau i wella cydraddoldeb a thegwch yng Nghymru.