Anghydraddoldeb

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:23, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb? Yr anghydraddoldeb mwyaf, os nad y mwyaf, yw'r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig ac ardaloedd mwy llewyrchus Cymru, yn aml o fewn yr un ardal awdurdod lleol, ac yn wir, o fewn yr un etholaeth, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet. Ers diwedd Cymunedau yn Gyntaf a'r gwaith a wnaeth ar leihau cyfraddau ysmygu, lleihau gordewdra a chynyddu ymarfer corff, beth sy'n cael ei wneud i wella disgwyliad oes yn y cymunedau mwyaf difreintiedig?