Prosiect Olynol Cyflymu Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:50, 20 Mehefin 2018

Rydw i wedi cysylltu â chi fel Gweinidog yn y gorffennol yn adrodd am broblemau efo band llydan yn Ynys Môn. Mi wnes i apêl yn ôl ym mis Ebrill am y wybodaeth ddiweddaraf. Mae gen i adroddiad arall—rwy'n siŵr y gallaf i yrru copi atoch chi. Mae'n amlwg bod yna nifer o ardaloedd sydd wedi colli allan o drwch blewyn, o bosibl, ar y rhaglen Cyflymu Cymru—mae ardaloedd Llanddona, Llansadwrn, Brynsiencyn, Cefniwrch a Rhyd-wyn yn rhai sydd wedi amlygu'u hunain.

Yn yr ardaloedd hynny, mi oedd gwaith wedi dechrau ar baratoi ar gyfer cysylltiad. Yn amlwg, mi oedd yna siom fawr o weld y rhaglen yn dod i ben heb i'r gwaith gael ei gwblhau. A ydych chi mewn sefyllfa i allu rhoi sicrwydd i'r etholwyr yma y byddan nhw'n flaenoriaeth—hynny yw, y bydd cwblhau gwaith a oedd wedi'i ddechrau yn flaenoriaeth o dan y rhaglen newydd, pan ddaw honno?